Torri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt, gan ddefnyddio llif gadwyn
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thorri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt, gan ddefnyddio llif gadwyn, lle y cytunwyd yn dilyn asesiad risg fod hyn yn ddull diogel. Mae’n cynnwys coed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt neu eu dadwreiddio oherwydd difrod storm, symudiad y tir neu gyfrwng ffisegol arall. Ni fydd y coed mewn safle sy’n gofyn am gymorth gan y gwasanaethau brys na chwmnïau cyfleustodau.
Bydd angen cynllunio i gwblhau’r gwaith ar nifer o safleoedd wedi’u chwythu gan y gwynt, a gall y gwaith gynnwys torri a thynnu coed sydd wedi’u chwythu’n rhannol a’u torri gan y gwynt, cyn torri platiau gwreiddiau o gyffion wedi’u chwythu’n llwyr.
Gall y coed fod uwchlaw ac islaw hyd bar llithro mewn diamedr a gallant fod wedi’u dadwreiddio yn llawn ac yn rhannol. Mae hyn hefyd yn cynnwys torri’r platiau gwreiddiau sy’n hongian dros safle torri gweithredwr y llif gadwyn, gan ddefnyddio dull mecanyddol neu beiriant priodol arall i’w hatal.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys torri coed sydd wedi’u chwythu’n rhannol (sy’n gwyro) a chwympo coed sydd wedi’u torri gan wynt, p’un a fydd y brig ynghlwm ai peidio.
Gall fod angen winshis neu beiriannau priodol eraill i atal coed â thensiwn ar yr ochr neu lle mae’r cyff yn debygol o rolio.
Mae’n ofyniad bod gweithredwyr sy’n ymgymryd â thorri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt fod wedi’u paratoi’n dda a bod ganddynt y cymwysterau a’r profiad priodol.
Wrth weithio gyda pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, a bod gennych dystysgrifau cyfredol, lle bo gofyn amdanynt, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau presennol diwydiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu’r dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle y bo hyn yn fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd
- dewis a defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- gwerthuso eich cymhwysedd eich hun i fwrw ymlaen â’r gweithrediadau a cheisio cyngor, lle y bo angen
- gwirio bod yr holl gyfarpar gofynnol wedi’i baratoi a’i fod yn gweithio’n iawn, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- cynllunio ymagwedd systematig at y gwaith o dorri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt i sicrhau diogelwch gweithredwyr
- dilyn canllawiau presennol diwydiant i gyflawni’r gweithgareddau sy’n ofynnol i dorri coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt
- cynnal cyfathrebu a gwaith tîm effeithiol trwy gydol y gweithrediadau
- paratoi’r safle trwy waredu malurion a rhwystrau sy’n tarfu ar yr ardal waith a sefydlu llwybr dianc
- paratoi’r cyffion trwy waredu canghennau, llystyfiant dringo, prysg a rhwystrau eraill, lle bo’r gofyn, yn unol â chanllawiau presennol diwydiant
- nodi tensiwn a chywasgu mewn cyffion ac addasu dulliau gweithio i gyfrif am hyn, yn unol â chanllawiau presennol diwydiant, gan ddefnyddio cyfarpar atal addas, lle y bo gofyn
- nodi pren marw, canghennau anniogel a brigau tor yn y coed sydd wedi’u chwythu gan wynt sydd i’w torri, ac mewn coed gerllaw sy’n sefyll
- torri’r platiau gwreiddiau o gyffion sydd o dan a thros diamedr bar llithro gan ddefnyddio’r toriadau cywasgu a thensiwn priodol, yn unol â chanllawiau presennol diwydiant, gan ddefnyddio cyfarpar atal addas, lle y bo gofyn
- gwirio bod y coed a’r platiau gwreiddiau mewn safle a chyflwr diogel a phriodol i alluogi’r gweithrediadau dilynol
- dewis a defnyddio cyfarpar i atal y goeden, sy’n briodol i faint a chyflwr y goeden a’r plât gwreiddiau
- dilyn arfer da amgylcheddol fel y mae eich sefydliad a’r diwydiant wedi’i osod, a lleihau difrod amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau a sut i ddehongli asesiadau risg
- pryd fyddai’n fwy diogel defnyddio dull mecanyddol i glirio’r hyn a chwythwyd gan wynt
- peryglon gweithio ar goed sydd wedi’u difrodi neu goed sydd â chlefyd, a’r rhagofalon y mae’n rhaid eu cymryd
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
- y cyfarpar sy’n ofynnol i gyflawni’r gweithrediad a phwysigrwydd gwirio ei fod wedi’i baratoi ac yn gweithio’n iawn
- sut i gynllunio ymagwedd systematig at y gwaith o dorri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt i sicrhau diogelwch gweithredwyr a’r ffactorau sydd angen eu hystyried
- pwysigrwydd dilyn canllawiau presennol diwydiant wrth glirio coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt
- sut i gyflawni’r gweithgareddau sy’n ofynnol i dorri coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt
- pwysigrwydd cynnal cyfathrebu effeithiol gyda gweithredwyr ac eraill ar y safle wrth glirio coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt
- pwysigrwydd dewis a chlirio llwybr dianc addas
- sut i adnabod tensiwn a chywasgu ar y brig, y gwaelod a’r ochr mewn pren
- y risgiau sy’n gysylltiedig a’r rhagofalon y mae angen i weithredwr y llif gadwyn eu cymryd wrth dorri pren sydd o dan densiwn uchel
- sut i adnabod pryd mae angen winsh neu gyfarpar atal arall
- y gwahanol fathau o winsh a chyfarpar atal arall a sut i ddewis, gosod a defnyddio winshis a chyfarpar ategol i gyflawni gwahanol dasgau yn ddiogel
- y peryglon a allai ddigwydd wrth ddefnyddio cyfarpar atal
- y sefyllfaoedd pan y byddai banciwr yn cael ei ddefnyddio a’r dull cyfathrebu â’r gweithredwr
- y dulliau o dorri coed sydd wedi’u dadwreiddio, o dan ac uwchlaw hyd bar llithro mewn diamedr
- sut i wneud platiau gwreiddiau yn ddiogel ar ôl eu torri
- sut i adnabod sefyllfaoedd pan nad yw torri â llif gadwyn yn briodol
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir ei lleihau
- eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol a’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i gyflawni’r canlynol:
· torri pren o dan densiwn uchel
· defnyddio winsh neu gyfarpar atal arall ar gyfer tensiwn ochr neu i atal pren rhag rolio/symud ar lethr
· defnyddio winshis i atal platiau gwreiddiau sy’n hongian dros y safle
· dewis a defnyddio pwyntiau angori sy’n ddigonol ar gyfer y pwysau sy’n cael eu hychwanegu
· torri “boncyff hir” wrth dorri cyffiau sydd wedi’u claddu neu blatiau gwreiddiau ansefydlog
· defnyddio toriadau “V” a dulliau eraill i dorri pren sydd o dan densiwn uchel iawn
· torri coed sydd wedi’u dadwreiddio’n rhannol neu eu chwythu’n rhannol gan y gwynt
· cwympo coed toredig sydd â’r brig ynghlwm neu goed heb frig arnynt
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Bydd cyfarpar ategol sy’n gydnaws â’r winsh, ac ati, yn cynnwys ceblau, stropiau, tagwyr, gefynnau, blociau cipio pwli a dyfeisiau eraill, fel clampiau estyniad i gebl
Banciwr – unigolyn sy’n cadw golwg allan