Tynnu coed sydd yn hongian i lawr
URN: LANTw23
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu coed sydd yn hongian ar goed eraill i lawr. Gellir defnyddio winshis, offer llaw neu beiriannau priodol. Gall winshis fod wedi eu pweru â llaw neu'n fecanyddol.
Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- paratoi'r safle i hwyluso'r gwaith o dynnu coed sydd yn hongian i lawr a sicrhau bod yr ardal waith o dan y goeden yn glir
- gwneud gwaith cynnal a chadw gweithredwr, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y llif gadwyn ar gyfer ei defnyddio fel mater o drefn
- dewis y dull o dynnu i lawr, sy'n berthnasol i faint, ffurf a chyflwr y goeden
- paratoi coed trwy dynnu rhan neu'r colfach cyfan, fel y bo'n briodol i faint, cyflwr a'r dull o dynnu'r goeden i lawr
- cyflunio offer atal yn ddiogel ac yn effeithiol, os oes angen
- tynnu coed sydd yn hongian i lawr gan ddefnyddio offer a chyfarpar sy'n briodol i faint, cyflwr a dulliau tynnu coeden i lawr
- sicrhau bod coed mewn safle diogel a phriodol i alluogi gweithgareddau dilynol
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- y cynlluniau a'r gweithdrefnau brys ar gyfer y safle
- pwysigrwydd arsylwi'r goeden sydd yn hongian a'r ardal waith trwy gydol y gweithrediadau gwaith coed
- y dulliau tynnu i lawr ar gyfer ystod o bwysau a diametrau coed, gan ddefnyddio offer llaw priodol
- y dulliau tynnu i lawr ar gyfer coed sy'n hongian gan ddefnyddio winshis neu ddulliau llaw neu fecanyddol eraill
- y mathau amrywiol o winshis ac offer addas a ddefnyddir wrth dynnu i lawr a'r modd o weithredu, yn cynnwys winshis llaw ac wedi'u pweru
- yr ardaloedd peryglus mewn perthynas â'r coed sy'n hongian sydd i gael eu tynnu i lawr
- y defnydd o offer llaw, rhaffau tynnu a winshis, i gynorthwyo gyda'r gwaith o docio/tynnu aelodau coed
- y gweithredoedd priodol i'w cymryd os na ellir tynnu coeden sydd yn hongian i lawr
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Offer cynorthwyol sy'n addas ar gyfer winshis:
- ceblau
- strapiau
- cadwyni
- dolenni
- cipflociau pwli
- dyfeisiadau eraill fel clampiau ymestyn cebl
Offer llaw yn cynnwys:
- tongiau codi
- polion bachog
- bachau troi
- strapiau troi
- polion tynnu i lawr
- winshis llaw bach
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw23
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llif gadwyn a choedwigaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
llif gadwyn; hongian; coed