Cynorthwyo cydweithwyr sy’n gwneud gwaith coed o’r awyr

URN: LANTw22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i gynorthwyo cydweithwyr sy’n gwneud gwaith coed o’r awyr.

Mae gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:

  • rheoli mynediad i ardaloedd gweithio
  • cynorthwyo a helpu cydweithwyr sy’n gweithio oddi ar y tir
  • delio â sgil-gynhyrchion

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr tir a gweithwyr coed eraill sy’n cynorthwyo â gwaith coed o’r awyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
4. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
5. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
6. gwirio bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
7. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
8. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
9. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
10. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
11. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
12. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
13. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
14. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Rheoli mynediad i ardaloedd gweithio
1. cadarnhau bod ardaloedd gweithio a pharthau gollwng wedi’u sefydlu a’u marcio’n glir
2. rheoli mynediad i ardaloedd gweithio a pharthau gollwng yn unol ag asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu’r safle
3. monitro gweithrediadau gwaith coed i ddarparu gwybodaeth amserol i ddringwyr am unrhyw newidiadau i beryglon a risgiau’r safle, yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle

Cynorthwyo a helpu cydweithwyr sy’n gweithio oddi ar y tir
1. cyfathrebu’n effeithiol â’r gweithiwr coed sy’n gweithio o’r awyr ac eraill trwy gydol y gwaith, gan gynnwys unrhyw aelodau’r cyhoedd
2. pasio cyfarpar i ddringwyr a derbyn cyfarpar oddi wrthynt yn ddiogel i gynorthwyo â gwaith coed, yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle

Delio â sgil-gynhyrchion
1. gwaredu sgil-gynhyrchion o barthau gollwng yn ddiogel i gynorthwyo’r gweithwyr coed sy’n gweithio o’r awyr, yn unol ag asesiadau risg a lleihau difrod amgylcheddol yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle
2. delio â sgil-gynhyrchion yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle a gofynion amgylcheddol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
4. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
5. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
6. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr coed sy’n gweithio o’r awyr ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
7. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
8. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
9. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
10. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
11. y problemau a all godi wrth gynorthwyo gwaith coed o’r awyr, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
12. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd

Rheoli mynediad i ardaloedd gweithio
1. y cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd parthau risg a’r rheolaeth ar barthau gollwng
2. pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn cael ei gyflawni a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen

Cynorthwyo a helpu cydweithwyr sy’n gweithio oddi ar y tir
1. pa gymorth sy’n ofynnol i gydweithwyr sy’n gwneud gwaith coed o’r awyr, pam mae’n bwysig a phwy y dylech gadarnhau eich gweithgareddau gwaith gyda nhw
2. sut i nodi rhywogaethau a theuluoedd coed a sut bydd rhywogaeth a chyflwr y coed yn effeithio ar eich gwaith
3. egwyddorion sylfaenol cynefinoedd coed a sut maent yn effeithio ar eich gwaith
4. pasio cyfarpar i weithwyr coed sy’n gweithio o’r awyr a derbyn cyfarpar oddi wrthynt yn ddiogel

Delio â sgil-gynhyrchion
1. pam mae’n bwysig gwaredu sgil-gynhyrchion o barthau gollwng cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel gwneud hynny
2. y dulliau cywir o ddelio â sgil-gynhyrchion yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. sut i ddewis y dull priodol o waredu neu gludo’r sgil-gynhyrchion o weithrediadau gwaith coed
4. sut i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol o ran gwaredu, cludo a storio’r sgil-gynhyrchion o weithrediadau gwaith coed


Cwmpas/ystod

Mae gweithgareddau i gefnogi gwaith coed o’r awyr yn cynnwys y canlynol:

  • rheoli mynediad i ardaloedd gweithio
  • cynorthwyo a helpu cydweithwyr sy’n gweithio oddi ar y tir
  • delio â sgil-gynhyrchion

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gweithiwr coed sy’n gweithio o’r awyr/Dringwr – yr unigolyn sy’n gweithio oddi ar y tir, a allai gynnwys Platfformau Gweithio Symudol sy’n Codi neu raff a harnais

Mae cyfarpar mynediad yn cynnwys: Platfformau Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWPs), mynediad trwy raff, gosod safle rhaffau, ysgolion, sgaffaldio, craeniau, sbigynnau

Parth gollwng – yr ardal ddynodedig y bydd gwrthrychau fel canghennau coed neu ddarnau o foncyffion yn cael eu gollwng iddi wrth docio coed o’r awyr

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw27

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llif gadwyn a pheiriannau coedwig

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

oddi ar y tir; o’r awyr; coeden; dringwr; sgil-gynhyrchion