Tynnu canghennau o goed wedi eu torri i lawr gan ddefnyddio llif-gadwyn

URN: LANTw21
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu canghennau (tocio neu dynnu aelodau) coed wedi eu torri i lawr ar y ddaear gan ddefnyddio llif gadwyn.  Bydd hyn yn cynnwys torri coed i lawr ar fainc naturiol neu wedi ei chreu, mat tocion neu system debyg.

Mae'r safon yn cynnwys coed conifferaidd a choed dail llydan.

Wrth weithio gyda pheiriannau mae angen i chi fod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. gwneud gwaith cynnal a chadw gweithredwr, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y llif gadwyn ar gyfer ei defnyddio fel mater o drefn
  6. cynllunio sut y byddwch yn gwneud y gweithgaredd a thrafod unrhyw bryderon gyda'r person priodol ynghylch y ffordd orau o gwblhau'r gwaith
  7. bodloni canllawiau diogelwch a nodir a gofynion amgylcheddol eich sefydliad wrth dynnu canghennau o goed gan ddefnyddio llif gadwyn
  8. defnyddio llif gadwyn i dynnu canghennau o goed sydd wedi eu torri gan ddefnyddio dull adnabyddus sy'n briodol i batrwm canghennau, maint, ffurf a chyflwr y goeden a gadael y bonyn fel y bo'n briodol i'r fanyleb
  9. troi coed a/neu dynnu canghennau oddi tanynt gan ddefnyddio offer a dull(iau) priodol
  10. sicrhau bod tocion o ganlyniad yn cael eu pentyrru, eu tynnu neu eu torri i lawr, fel y bo'n briodol i'r fanyleb
  11. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  12. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. pam y mae'n bwysig cynnal llifau cadwyn i safon uchel
  7. goblygiadau'r tirwedd, y ddaear, y tymor a chyflwr y goeden ar ddefnyddio llif gadwyn i dynnu canghennau o goed wedi eu torri i lawr
  8. sut bydd y dull o dynnu canghennau yn amrywio gyda rhywogaethau'r coed, eu ffurf a'u cyflwr a'r amddiffyniadau sydd eu hangen wrth dynnu aelodau pren lle mae canghennau neu adrannau yn sefyll i fyny neu'n hongian dros y gweithredwr
  9. sut i adnabod tensiwn a chywasgu mewn canghennau a'r goblygiadau i'r dull dewisol o dorri
  10. sut a phryd i ddefnyddio offer ychwanegol, i gynorthwyo gyda thocio/tynnu aelodau coed wedi eu torri i lawr
  11. y defnydd o beiriannau trwm priodol i droi coed wedi eu torri i lawr a'r amddiffyniadau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer troi coeden a/neu dynnu canghennau oddi tano
  12. manteision a'r angen i adael bonyn glân ar ôl tynnu aelodau
  13. y ffyrdd o ymdrin â thocion a changhennau ar ôl tynnu aelodau/tocio
  14. pwysigrwydd gwirio pa mor dda yr ydych wedi gweithio gydag eraill wrth dynnu canghennau o goed wedi eu torri i lawr
  15. pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch ymdrin ag unrhyw broblemau wrth dynnu canghennau o goed wedi eu torri i lawr
  16. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Effeithiau posibl ar yr amgylchedd – fel nythod gwiwerod coch, deyerydd moch daear, cytrefi ystlumod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw21

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad y Grîn, Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gofalwr Tir, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd, Tirluniwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trawsdorri; llif gadwyn; tocio; canghennau