Torri coed bach i lawr gan ddefnyddio llif-gadwyn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri coed bach i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn. Mae coeden fach wedi ei diffinio fel un o dan 380mm (15 modfedd) ar uchder torri i lawr.
Bydd y dechneg torri i lawr yn briodol i faint, pwysau, cyflwr a rhywogaeth y goeden a hefyd yn ystyried y dirwedd a'r tywydd.
Mae'r safon hon yn cynnwys coed conifferaidd a dail llydan, coed unionsyth, coed sydd wedi eu pwyso tuag at, a'r rheiny sydd wedi pwyso yn erbyn, y cyfeiriad torri i lawr a roddir.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- cynnal diogelwch a diogeledd offer ar y safle
- cynllunio sut byddwch yn gwneud y gweithgaredd a thrafod unrhyw bryderon gyda'r person priodol er mwyn sefydlu'r ffordd orau o gwblhau'r gwaith
- paratoi'r safle trwy gael gwared ar y rhwystrau yng nghyfeiriad torri'r goeden i lawr a sefydlu llwybr(au) dianc, fel y bo'n briodol
- paratoi'r safle ar gyfer gweithrediadau torri coed i lawr gyda llif gadwyn
- gwneud gwaith gweithredwr, gwiriadau cyn cychwyn a gosod i lif gadwyn ar gyfer ei defnyddio fel mater o drefn
- paratoi coed bach ar gyfer eu torri i lawr mewn ffordd sy'n briodol i gyflwr y goeden a'r fanyleb ar gyfer y safle
- paratoi'r safle i hwyluso'r gwaith o dorri'r goeden fach i lawr, a sicrhau bod yr ardal waith o dan y goeden yn glir
- dewis dull torri i lawr adnabyddus gan ddefnyddio llif gadwyn, sy'n briodol ar gyfer manyleb y safle, maint a chyflwr y goeden, gan ystyried y cyfeiriad y mae'r goeden wedi ei phwyso a'r cyfeiriad y bwriedir i'r goeden gwympo
- torri coed bach i lawr, gan ddefnyddio dulliau torri coed adnabyddus a chymhorthion torri coed sy'n briodol ar gyfer math, cyflwr a thechneg dorri dewisol y goeden
- sicrhau bod safle a chyflwr y goeden sydd wedi ei thorri i lawr yn ddiogel ac yn addas ar gyfer gweithrediadau olynol
- dilyn yr arfer da amgylcheddol a osodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
- cadw cofnodion cywir a diweddar, fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon a chydymffurfio â gweithdrefnau rheoli asesiadau risg wrth dorri coed bach i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn
- y cynlluniau a'r gweithdrefnau brys sy'n berthnasol ar gyfer y safle
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pwysigrwydd lleihau niwed i'r amgylchedd ac atal digwyddiadau o lygredd
- gwybod sut i adnabod pa goed y mae angen eu torri i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a'r cyfyngiadau ar gyfer torri coed bach i lawr mewn amgylchiadau gwahanol
- goblygiadau tirwedd, cyflwr y ddaear, y tymhorau, y tywydd a chyflwr coed i dorri coed bach i lawr
- y dulliau torri coed i lawr adnabyddus, yn cynnwys defnyddio tyllau turio a chymhorthion torri i lawr
- sut i adnabod arwyddion clefyd a phydredd mewn coed a sut i addasu dulliau torri coed i lawr yn unol â hynny
- manteision sefydlu neu ddefnyddio mainc naturiol torri coed, mat tocion neu gymorth tebyg cyn torri
- sut a phryd i ddefnyddio offer ychwanegol i gynorthwyo gyda'r gwaith o dorri coed bach i lawr a'r amddiffyniadau ychwanegol gofynnol
- sut i dorri coed bach heb bennau a/neu ganghennau a'r amddiffyniadau ychwanegol sy'n ofynnol
- sut i wybod pan fydd coeden fach yn anodd ei thorri a'r camau i'w cymryd
- y rhagofalon ychwanegol i'w defnyddio wrth dorri coed gerllaw llwybrau, ffyrdd neu ardaloedd â mynediad cyhoeddus
- pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch ymdrin ag unrhyw broblemau wrth dorri coed bach i lawr
- y canllawiau presennol ar gliriadau diogelwch o ddargludyddion trydan uwchben a beth i'w wneud os bydd cyswllt â llinellau trydan
- pam y mae'n bwysig cynnal a chadw llifau cadwyn i safon uchel
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Dulliau torri coed ar gyfer:
- coed bach unionsyth/cytbwys
- coed bach wedi eu pwyso am yn ôl
- coed bach wedi eu pwyso ymlaen
- polau
- coed bach sy'n anodd eu torri (e.e. gwerth masnachol uchel, cyflwr, agwedd neu safle)
- defnydd o fariau canllaw yn fwy na diametr y goeden
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Offer ychwanegol:
- gefeiliau codi
- bachau gwyro
- bachau troi
- strapiau troi
- polau tynnu i lawr
- offer priodol arall
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Effeithiau posibl ar yr amgylchedd - fel nythod gwiwerod coch, deyerydd moch daear, cytrefi ystlumod**
Paratoi coed bach ar gyfer eu torri i lawr – a allai gynnwys tocio canghennau is, tynnu llystyfiant sy'n dringo, bwtresi a rhwystrau eraill**
*
*
Paratoi'r safle – gallai hyn gynnwys sefydlu mainc, mat tocion neu debyg
Safleoedd coed – sefyll yn syth, pwyso yn erbyn a phwyso yn y cyfeiriad y bwriedir torri'r goeden