Rheoli achosion o lygredd

URN: LANTw2
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau o lygredd.  Mae'n rhaid eich bod yn gallu rheoli digwyddiadau o lygredd yn cynnwys olew, tanwydd, cemegion neu laid.

 

Gellir rheoli trwy adeiladu ffosydd rhwystro a thrawstiau a thrwy ddefnyddio deunyddiau amsugno.

Mae'n rhaid i'ch gwaith ddilyn arferion gwaith y cwmni ac arfer da'r diwydiant. Mae'n rhaid iddo hefyd fodloni gofynion deddfwriaeth berthnasol ac mae'n cynnwys y gofyniad i gysylltu â'r awdurdodau rheoleiddio dŵr parthed digwyddiadau o lygredd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon sy'n cael eu hasesu
  3. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol priodol (PPE) ar gyfer y gwaith
  4. adnabod natur, graddfa ac effaith bosibl yr achos o lygredd
  5. trin yr achos o lygredd gan ddefnyddio'r mesurau rheoli mwyaf priodol, gan ddilyn gweithdrefnau rheoli llygredd cytûn
  6. nodi unrhyw newidiadau i raddfa neu natur y digwyddiad a hysbysu'r person dynodedig ynghylch y newidiadau hyn
  7. cynnal a chadw'r offer a'r peirianwaith a ddefnyddir i reoli llygredd yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
  8. cyfathrebu'n effeithiol gyda chydweithwyr ac unrhyw asiantaethau eraill
  9. sicrhau bod y gofynion amgylcheddol deddfwriaethol a sefydliadol yn cael eu bodloni
  10. gwaredu deunydd rheoli llygredd yn unol â gweithdrefnau penodedig
  11. ymdrin ag unrhyw broblemau o fewn lefel eich cyfrifoldeb
  12. cadw cofnodion cywir a diweddar yn unol â deddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  13. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng
  5. y gadwyn awdurdod a rolau personél mewn achos o lygredd
  6. y mesurau rheoli llygredd y cytunwyd arnynt
  7. sut caiff chwistrelliadau pwysedd uchel, cyfaint dŵr isel eu defnyddio i reoli achosion o lygredd a llygrwyr
  8. effaith tanwydd, olew, cemegion a llaid fel llygrwyr
  9. yr offer a'r peiriannau y gellir eu defnyddio i helpu i reoli achosion o lygredd
  10. goblygiadau tir, cyflwr y ddaear, math o lystyfiant, y tymor a'r tywydd ar achosion o lygredd
  11. y cosbau y gellid eu rhoi am achosi llygredd
  12. sut i waredu deunydd rheoli llygredd
  13. y defnydd o ddeunydd amsugno i reoli llygrwyr a gludir ar yr arwyneb
  14. pwysigrwydd gwirio pa mor dda y mae mesurau rheoli llygredd wedi bod
  15. pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch weithio gydag eraill i reoli'r achos o lygredd
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer

Cwmpas/ystod

Digwyddiadau yn cynnwys y mathau canlynol o lygrwyr:

  • olew a thanwydd
  • cemegion
  • llaid

Defnyddio'r mesurau rheoli canlynol:

  • adeiladu ffosydd rhwystro
  • adeiladu trawstiau rhwystro
  • defnyddio deunydd amsugno

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw2

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llifau cadwyn a pheiriannau coedwigoedd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

llygredd; tanwydd; rheolaeth; amgylchedd; gorlif