Gwneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn ar lifau cadwyn a systemau torri
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn ar lifau cadwyn a systemau torri, yn cynnwys y bar canllaw.
Mae llifau cadwyn a ddefnyddir mewn gwaith awyr a daear wedi eu cynnwys yn y safon hon.
Gallai'r gwaith hwn gael ei wneud mewn gweithdy neu amgylchedd coetir.
Wrth weithio gyda chemegau a pheiriannau mae angen i chi gael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a gwisgo'r offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn
- nodi bod y nodweddion diogelwch ar y llif gadwyn yn bresennol ac yn gweithio
- dewis yr offer cynnal a chadw priodol ar gyfer uned bŵer y llif gadwyn a'r systemau torri, yn unol â gofynion y cynhyrchydd
- archwilio, glanhau, gwasanaethu a chynnal uned bŵer y llif gadwyn, yn unol â gofynion y cynhyrchydd a chanllawiau'r diwydiant
- archwilio'r cydrannau yn uned bŵer y llif gadwyn
- archwilio a chynnal a chadw'r system dorri, yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd, gan ddefnyddio'r offer priodol
- adnewyddu cydrannau wedi eu niweidio, sydd ar goll neu wedi treulio
- hysbysu ynghylch unrhyw ddiffygion yn briodol, gallai hyn fod ar lafar neu yn ysgrifenedig
- ailosod y llif gadwyn a'r system dorri i safon weithredol
- cynnal gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn, gwiriadau cyn cychwyn a gosod y llif gadwn ar gyfer ei defnyddio
- cadw cofnodion priodol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- gweithdrefnau a chynlluniau brys sy'n berthnasol i'r gwaith
- sut i ddefnyddio rhestr wirio/taflen adrodd chynnal a chadw
- y rhesymau pam y caiff nodweddion diogelwch eu gosod ar lifau cadwyn a sut maent yn gweithredu
- y prif ardaloedd i'w cadw'n glir o falurion yn ystod y gweithrediad
- prif bwyntiau diogelwch gweithredol llif gadwyn a system dorri
- gofynion gweithredu a chynnal a chadw cydrannau unigol
- sut i adnabod dangosyddion allweddol sefydlu cydrannau unigol llif gadwyn yn gywir
- y rhesymau pam y mae'n bwysig gwirio'r gadwyn a'r bar canllaw am draul a niwed
- y symptomau a'r problemau y byddwch yn dod ar eu traws pan fydd y gadwyn a'r bar canllaw wedi treulio, eu niweidio neu wedi eu cynnal a'u cadw'n wael a sut i ymdrin â nhw o fewn eich lefel cyfrifoldeb chi
- sut i wirio addasrwydd y bar canllaw, yr olwyn ddanheddog a'r gadwyn
- terfynau derbyniol traul cydrannau'r system dorri cyn bod angen eu hadnewyddu
- y gweithdrefnau i'w dilyn os yw niwed neu draul i gydrannau y tu hwnt i'r terfynau a argymhellir
- pwysigrwydd dewis meintiau cywir ffeil a mesurydd wrth hogi a gosod dyfnder toriad ar y gadwyn, a ble i gael y manylebau
- sut mae cadwyn dorri'n gweithio
- y mathau gwahanol o gadwyn a sut i'w cymhwyso
- pam y mae'n bwysig cynnal llifau cadwyn a'r system dorri i safon uchel
- pam mae cofnodion llif gadwyn a system dorri'n cael eu cynnal
- y camau i'w cymryd pan na ellir atgyweirio llif gadwyn neu system dorri, os oes nam arno neu os nad yw'n weithredol
- pwysigrwydd gwirio pa mor dda y cafodd problemau gyda'r llif gadwyn a'r cydrannau eu trin
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a chodau ymarfer
Cwmpas/ystod
Glanhau, gwasanaethu a chynnal a chadw'r uned bŵer yn cynnwys:
- plwg tanio
- hidlwr aer
- mecanwaith cychwyn
- brêc y gadwyn
- hidlwyr tanwydd ac olew
- systemau olew
Archwilio'r cydrannau canlynol:
- mecanweithiau cydiwr
- pibell fwg (ac eithrio polion tocio wedi eu pweru)
Archwilio a chynnal a chadw'r rhannau canlynol o'r system dorri:
- bar canllaw cadwyn cydnaws
- cadwyn
- cyfuniad olwyn ddanheddog
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Trefn – cynnal a chadw i gywiro ac atal a wneir yn ddyddiol neu’n rheolaidd gan y gweithredwr cyn ac yn ystod y gwaith.