Echdynnu pren a chynhyrchion pren gan ddefnyddio ceffyl
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio ceffylau i echdynnu pren a chynhyrchion pren.
Defnyddir ceffylau pan fydd hi’n anodd cael mynediad i safleoedd, a byddai peiriannau trwm yn tarfu ac yn achosi difrod.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- cadarnhau, paratoi a chynnal a chadw llwybrau mynediad ac ymadael ar gyfer gwaith echdynnu
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle ar gyfer y cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod lles y ceffyl neu’r ceffylau’n cael ei wirio’n rheolaidd
- cynnal diogelwch a diogeledd y ceffyl(au) a’r cyfarpar ar y safle
- paratoi’r ceffyl(au) ar gyfer gwaith pren, gan ystyried lles ceffylau yn briodol
- dewis, gwirio, paratoi a ffitio harnais addas ar gyfer y gwaith a gyflawnir
- trafod y ceffyl(au) i gadw rheolaeth a gwirio lles y ceffyl(au) trwy gydol y gwaith
- defnyddio’r cyfarpar priodol i lwytho a diogelu pren neu gynhyrchion pren yn ddiogel er mwyn i’r ceffyl eu hechdynnu
- echdynnu pren a chynhyrchion pren gan ddefnyddio ceffyl yn ddiogel ac yn effeithiol, gan ddefnyddio’r llwybrau echdynnu y cytunwyd arnynt
- dadlwytho, graddio a gwahanu pren a chynhyrchion pren, yn unol â manylebau’r cynhyrchion
- casglu pren a chynhyrchion pren yn yr ardal y cytunwyd arni fel y gellir eu codi a’u hanfon ymlaen
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys a’r parthau risg sy’n berthnasol i’r safle, yn enwedig lle mae cwympo’n parhau i fynd yn ei flaen
- sut i ddewis llwybrau addas i echdynnu pren a chynhyrchion pren gan ddefnyddio ceffyl
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad wrth gyflawni’r gwaith hwn
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
- goblygiadau tirwedd, amodau’r tir, y tymor, y tywydd a’r math o bren neu gynhyrchion pren i’r defnydd o geffylau ar gyfer gwaith echdynnu
- y gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â pharatoi ceffylau ar gyfer gwaith echdynnu
- y gwahanol fathau o harnais ceffyl ac at ba ddiben maen nhw’n cael eu defnyddio
- sut i ddewis, gwirio, paratoi a ffitio gwahanol fathau o harnais ceffyl
- sut i drin ceffylau yn ddiogel, gan ystyried eu lles
- sut i ddarparu ar gyfer lles ceffylau, a’i gynnal, gan gynnwys darparu cyfle i orffwys, bwyd a dŵr
- galluoedd y ceffyl(au) a ddefnyddir, o ran ffitrwydd, natur, profiad, maint, pwysau a’r math o gyfarpar echdynnu a ddefnyddir
- galluoedd a chyfyngiadau’r ceffyl(au) a ddefnyddir, gan gynnwys cyfyngiadau llethrau a’r llwyth gweithio diogel mwyaf
- sut i ddehongli manylebau cynhyrchion a rhannu cynhyrchion yn gategorïau yn ystod gwaith llwytho
- sut i lwytho a chlymu pren a chynhyrchion pren yn ddiogel ac yn dynn i’w hechdynnu
- effaith llwythi anghytbwys ar echdynnu
- dulliau graddio, pentyrru a thrin cynhyrchion
- effaith bosibl eich gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- y problemau a all godi wrth echdynnu pren a chynhyrchion pren gan ddefnyddio ceffyl, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarpar gynnwys: polion bachog, rholeri boncyffion, bachau gafael, gefeiliau pren, cadwyni cadwyno, conau sgidio, cipflociau, bachau bwylltid, bwâu torri coed yn foncyffion/bwáu pren/bwâu polyn, harnais, cambrenni, blaenyrwyr
Mathau o harnais – Sgandinafaidd, tres, aradr, cart
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.