Cynnal gweithrediadau gwaith coed brys
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud gweithrediadau gwaith coed brys. Mae'r safon yn cynnwys cynnal gwaith coed brys fel arfer o ganlyniad i fethiant coeden, damwain cerbyd neu argyfwng yn ymwneud â'r tywydd.
Mae'n rhaid i'r defnydd o offer a'r holl weithrediadau fodloni'r canllawiau a gyhoeddir gan y swyddog cyfrifol, e.e. cynrychiolydd y frigâd dân neu swyddog cleient, yn ogystal â gofynion y gyfraith, codau ymarfer cyfredol a chanllawiau'r diwydiant.
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r ffordd y caiff gweithrediadau gwaith coed eu heffeithio gan gymhlethdod y sefyllfa frys.
Mae'n ofyniad bod yn rhaid i'r tîm gweithrediadau gwaith coed brys feddu ar yr offer cywir a'r cymwysterau a'r profiad priodol.
Wrth weithio gyda pheiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- lleoli'r cydlynydd ymateb mewn argyfwng
- defnyddio'r pecyn ymateb mewn argyfwng ar gyfer gweithrediadau gwaith coed
- cyfathrebu a gweithio'n effeithiol fel tîm trwy gydol y gweithrediadau gwaith coed brys
- gweithio'n effeithiol gyda'r cydlynydd ymateb, y gwasanaethau brys a chynrychiolwyr cyfleustodau, fel y bo'n briodol
- pennu pa weithgareddau sydd yn ddiogel ac yn briodol i'w gwneud ar adeg yr argyfwng a pha rai y gellid eu cynnal yn nes ymlaen
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- gweithio ymysg cyrff y coed sydd yn sefyll sydd wedi eu niweidio i dynnu darnau sy'n cyflwyno perygl
- torri cyrff y coed sydd wedi syrthio yn ofalus
- torri bôn coed sydd wedi eu niweidio wrth blât y gwreiddyn lle bo angen
- cynnal y gweithrediadau gwaith coed brys y cytunwyd arnynt yn effeithlon ac yn effeithiol
- gwneud yr ardal yn ddiogel, gyda llwybrau mynediad addas, fel y bo angen
- cytuno ar gynlluniau ar gyfer gwneud unrhyw waith dilynol a chlirio
- gwaredu gwastraff yn unol â'r cynllun brys, gofynion diogelwch ac amgylcheddol
- adfer a sicrhau'r safle cyn ymadael
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon a gweithio o fewn mesurau rheoli asesiadau risg a chynlluniau brys
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- Sut i sicrhau plât gwreiddyn y goeden neu strwythurau ansefydlog eraill gyda'r offer priodol
- sut i dorri'r goeden oddi ar blât y gwreiddyn
- y rhesymau a'r amgylchiadau lle mae'n angenrheidiol symud coed ar y ddaear i ardal waith fwy diogel
- egwyddorion torri cyrff coed i lawr, gyda phwyslais penodol ar gefnogi'r aelodau a thensiwn a chywasgu
- sut i weithio'n ddiogel o fewn cyrff coed wedi eu niweidio
- sut a pham i ddechrau a chynnal cyfathrebu a gwaith tîm wrth wneud gweithrediadau gwaith coed brys
- y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag argyfyngau a gwasanaethau brys
- sut i bennu gweithgareddau sydd yn ofynnol i wneud yr argyfwng yn ddiogel a'r rheiny y gellir eu gadael tan yn ddiweddarach
- sut i waredu gwastraff
- sut i weithio mewn mathau gwahanol o safleoedd a sefyllfaoedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i weithio yn y mathau canlynol o safleoedd a sefyllfaoedd:
- yn agos at adeiladau neu gyfleustodau uwchben
- yn agos at y briffordd
- yn agos at ddŵr
- gyda choed wedi syrthio
- gydag adeiladau wedi eu niweidio
- mewn tywydd gwael
- gyda llinellau trydan wedi eu niweidio uwchben a allai fod yn fyw
- gyda cheblau wedi eu niweidio uwchben
- gyda chyfleustodau wedi eu niweidio o dan y ddaear
- gyda draeniau sydd yn gorlifo
- gyda thrychinebau amgylcheddol: carthffosiaeth grai, ac ati.
- o dan oleuadau artiffisial