Cyflawni gweithrediadau gwaith coed brys

URN: LANTw18
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni gweithrediadau gwaith coed brys. Mae’r safon yn cynnwys ymgymryd â gwaith coed brys, yn nodweddiadol o ganlyniad i fethiant coeden (pydredd neu glefyd), damwain cerbyd neu argyfwng sy’n gysylltiedig â’r tywydd.

Rhaid i ddefnyddio cyfarpar a’r holl weithrediadau fodloni’r arweiniad sy’n cael ei roi gan gydlynydd yr ymateb brys, e.e. y frigâd dân, yr heddlu, cynrychiolydd cwmni cyfleustod, awdurdod lleol neu sefydliad cyfrifol arall, ynghyd â gofynion deddfwriaeth, codau ymarfer presennol a chanllawiau diwydiant.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol sut y bydd cymhlethdod y safle a’r sefyllfa yn effeithio ar y gweithrediadau gwaith coed.

Mae’n ofyniad bod tîm gweithrediadau gwaith coed brys i gyd wedi’u paratoi’n dda a bod ganddynt y cymwysterau a’r profiad priodol.

Wrth weithio gyda pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, a bod gennych dystysgrifau cyfredol, lle bo gofyn amdanynt, yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â phob deddfwriaeth a chod ymarfer perthnasol wrth gyflawni’r gwaith hwn.

Mae’r safon hon i bawb sy’n ymwneud â chyflawni gweithrediadau gwaith coed brys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â safle a sefyllfa’r argyfwng a’r gweithrediadau gwaith coed sy’n ofynnol
  2. defnyddio’r cit ymateb brys ar gyfer gweithrediadau gwaith coed
  3. dewis a defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer gwaith coed brys
  4. paratoi’r cyfarpar sy’n ofynnol i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys yn ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. gwneud yr ardal yn ddiogel, gyda llwybrau mynediad addas, fel y bo angen
  6. gweithredu dulliau gweithio priodol yn unol â’r cynllun brys a’r risgiau a aseswyd
  7. cynnal cyfathrebiadau a gwaith tîm effeithiol trwy gydol y gweithrediadau gwaith coed brys
  8. gweithio’n effeithiol gyda chydlynydd yr ymateb a phobl eraill ar y safle
  9. cyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys cytunedig yn ddiogel ac yn effeithiol
  10. asesu risgiau yn barhaus a chymryd camau priodol wrth gyflawni gweithrediadau gwaith coed brys
  11. delio â phren a sgil-gynhyrchion sy’n cael eu creu gan y gweithrediadau gwaith coed brys, yn unol â gweithdrefnau cytunedig
  12. cadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus yn dilyn y gweithrediadau gwaith coed brys
  13. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun, ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, yn enwedig wrth weithio gyda chraeniau a phlatfformau gweithio codi symudol (MEWPs)​

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon a gweithio o fewn mesurau rheoli asesiadau risg a chynlluniau brys
  2. dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. sut i weithio ar wahanol fathau o safleoedd a sefyllfaoedd argyfwng
  4. sut i weithio’n ddiogel gyda’r cyfarpar sy’n ofynnol i gyflawni gweithrediadau gwaith coed brys, gan gynnwys craeniau a phlatfformau gweithio codi symudol (MEWPs)
  5. peryglon gweithio ar goed sydd wedi’u difrodi neu sydd â chlefyd, a’r rhagofalon y gellir eu cymryd
  6. y rhesymau a’r amgylchiadau pan y gall fod angen symud coed ar y ddaear i ardal weithio fwy diogel
  7. sut i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys cytunedig yn ddiogel ac yn effeithiol
  8. pwysigrwydd asesu risgiau’n barhaus a diwygio camau gweithredu wrth gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys
  9. pwysigrwydd cynnal cyfathrebu effeithiol gyda chydlynydd yr ymateb ac eraill ar y safle wrth gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys
  10. y gweithdrefnau ar gyfer delio ag argyfyngau a’r gwasanaethau brys
  11. y gweithdrefnau ar gyfer delio â phren a’r sgil-gynhyrchion o’r gweithrediadau gwaith coed brys
  12. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Sut i weithio yn y sefyllfaoedd canlynol:
·        gerllaw adeiladau neu gyfleustodau uwchben
·        gerllaw’r briffordd neu’r rheilffordd
·        gerllaw dŵr
·        gyda choed sydd wedi disgyn
·        gyda choed sydd wedi’u difrodi neu sydd â chlefyd
·        gydag adeiladau sydd wedi’u difrodi
·        mewn tywydd gwael
·        gyda llinellau pŵer uwchben sydd wedi’u difrodi, a all fod yn fyw
·        gyda cheblau uwchben sydd wedi’u difrodi
·        gyda chyfleustodau tanddaearol sydd wedi’u difrodi
·        gyda draeniau sydd wedi byrstio
·        gyda thrychinebau amgylcheddol: carthion ac ati.
·        o dan oleuadau artifissial

Sut i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys canlynol:  
·        coed sydd wedi dadwreiddio’n rhannol a choed sydd heb syrthio i’r ddaear
·        coed sydd wedi torri neu dorri’n rhannol, ond sydd heb ddadwreiddio
·        methiant rhannol coeden
·        methiant cyfan coeden
·        torri platiau gwreiddiau
·        winsio, cynnal a chodi
·        cwympo â chymorth
·        torri corun coeden i lawr
·        mynd at goeden sydd wedi methu gan ddefnyddio Platfform Gweithio Codi Symudol (MEWP), craen neu dechnegau dringo


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cydlynydd yr ymateb e.e.
·       y frigâd dân
·       yr heddlu
·       cynrychiolydd cwmni cyfleustod
·       awdurdod lleol
·       sefydliad cyfrifol arall


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw18

Galwedigaethau Perthnasol

Coedwigaeth, Coedyddiaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

digwyddiad; brys; gwaith coed