Paratoi ar gyfer a chytuno ar weithrediadau gwaith coed brys Legacy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer a chytuno i ymgymryd â gweithrediadau gwaith coed brys. Mae'r safon yn cynnwys paratoi a gwneud gwaith coed argyfwng neu frys yn ddiogel, fel arfer o ganlyniad i fethiant coeden, damwain cerbyd neu argyfwng yn ymwneud â'r tywydd.
Mae'n rhaid i'r defnydd o offer a'r holl weithrediadau fodloni'r canllawiau a roddwyd gan y swyddog cyfrifol, e.e. cynrychiolydd y frigâd dân neu swyddog cleientiaid, yn ogystal â gofynion y gyfraith, codau ymarfer presennol a chanllawiau'r diwydiant.
Caiff y gwaith sydd ei angen ei bennu gan gymhlethdod y sefyllfa.
Efallai mai eich cyfrifoldeb chi fydd systemau rheoli traffig neu gellir eu gweithredu gan yr Awdurdod Priffyrdd a/neu'r heddlu.
Mae'n ofyniad isafswm bod yn rhaid i dîm gweithrediadau gwaith coed brys fod â chyfarpar digonol a meddu ar y cymwysterau a'r profiad priodol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer argyfyngau gwaith coed gwahanol
- paratoi'r cerbyd(au) ymateb mewn argyfwng rhag ofn bydd argyfwng
- paratoi pecyn ymateb i argyfwng rhag ofn bydd argyfwng
- gwneud asesiad cychwynnol o'r safle, asesu'r peryglon i gyd a gosod rheolyddion addas
- asesu'r safle am dystiolaeth o gyfleustodau o dan y ddaear ac uwchben a'r perygl o niwed i wasanaethau, a allai helpu i ffurfio'r system waith ddiogel
- cytuno ar a sefydlu'r llinellau gorchymyn ar y safle
- cytuno ar a sefydlu cynllun brys a dull gwaith sy'n briodol i ddiogelwch y rheiny sydd yn gysylltiedig, y safle a chymhlethdod y sefyllfa
- cytuno ar a sefydlu system gyfathrebu effeithlon ac effeithiol gyda'r holl wasanaethau eraill ar y safle, yn arbennig gyda'r swyddog cyfrifol
- sicrhau bod systemau rheoli traffig priodol yn eu lle i ddiogelu aelodau o'r tîm gwaith coed, defnyddwyr eraill y safle a'r cyhoedd
- cadarnhau bod y gwasanaethau brys wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol cyn cynnal gweithrediadau gwaith coed
- sicrhau bod personél yn gymwys ac yn brofiadol i gynnal gweithrediadau gwaith coed brys
- paru sgiliau a phrofiad personél i weithrediadau gwaith coed a chymhlethdod y sefyllfa
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd ymateb i fyrder y gwaith coed brys
- y sefyllfaoedd pan na fyddai'n bosibl nac yn briodol ymateb i'r argyfwng gwaith coed
- yr offer amddiffynnol personol (PPE) priodol, offer a chyfarpar eraill sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad gwaith coed brys
- pwysigrwydd paratoi'r pecyn ymateb i argyfwng cyn unrhyw argyfwng
- ble a sut i ymchwilio rhybudd ymlaen llaw o argyfyngau, fel adroddiadau tywydd
- sut i ddefnyddio'r tîm ymateb i argyfwng yn effeithlon ac yn effeithiol
- sut i adnabod peryglon ac asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â gweithrediadau gwaith coed brys
- sut i adnabod presenoldeb ac arwyddocâd cyfleustodau
- sut i sefydlu cynlluniau a dulliau gwaith brys
- sut i sicrhau safleoedd ar gyfer gweithio diogel ac effeithiol, yn cynnwys lleoliad a safle cywir arwyddion rhybudd a rheolyddion mynediad
- pwysigrwydd cytuno i a sefydlu systemau cyfathrebu effeithlon ac effeithiol
- sut i gynnal systemau cyfathrebu effeithiol
- â phwy i gysylltu os nad yw'n bosibl ymateb i argyfwng gwaith coed
- y dulliau gwaith i sicrhau diogelwch personél gwaith coed ar y safle
- sut y gall cymhlethdod y sefyllfa effeithio ar weithrediadau gwaith coed
- lefelau gwahanol argyfyngau a'r adnoddau sy'n ofynnol
- sut i flaenoriaethu argyfyngau
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Paratoi ar gyfer argyfyngau yn y ffyrdd canlynol:
- llenwi gyda thanwydd a gwirio'r cerbyd
- paratoi a gwirio offer gwaith coed
- llwytho'r offer sydd ei angen ar gyfer gweithrediadau gwaith coed brys