Paratoi ar gyfer gweithrediadau gwaith coed brys, a chytuno arnynt

URN: LANTw17
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer ymgymryd â gweithrediadau gwaith coed brys, a chytuno i hynny. Mae’r safon yn cynnwys paratoi a chyflawni gwaith coed brys yn ddiogel, yn nodweddiadol o ganlyniad i fethiant coeden (pydredd neu glefyd), damwain cerbyd neu argyfwng sy’n gysylltiedig â’r tywydd.

Rhaid i ddefnyddio cyfarpar a’r holl weithrediadau fodloni’r arweiniad sy’n cael ei roi gan gydlynydd yr ymateb brys, e.e. y frigâd dân, yr heddlu, cynrychiolydd cwmni cyfleustod, awdurdod lleol neu sefydliad cyfrifol arall, ynghyd â gofynion deddfwriaeth, codau ymarfer presennol a chanllawiau diwydiant.

Cymhlethdod y safle a’r sefyllfa fydd yn pennu’r gwaith sy’n ofynnol.

Efallai mai chi sy’n gyfrifol am systemau rheoli traffig neu gallai’r Awdurdod Priffyrdd a/neu’r heddlu eu gweithredu.

Mae’n ofyniad bod tîm gweithrediadau gwaith coed brys i gyd wedi’u paratoi’n dda a bod ganddynt y cymwysterau a’r profiad priodol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â phob deddfwriaeth a chod ymarfer perthnasol.

Mae’r safon hon i bawb sy’n ymwneud â chynllunio a pharatoi staff, ynghyd â’r cyfarpar perthnasol, yn barod i ymgymryd â gweithrediadau gwaith coed brys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer gwaith coed brys
  2. paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer argyfyngau gwaith coed gwahanol ymlaen llaw
  3. paratoi cit a cherbyd ymateb brys rhag ofn y bydd galwad brys
  4. cydweithio â chydlynydd yr ymateb i gael holl fanylion yr argyfwng
  5. gwneud asesiad cychwynnol o’r safle a’r sefyllfa, asesu’r holl risgiau a gosod dulliau rheoli addas
  6. asesu’r safle am dystiolaeth o gyfleustodau o dan y ddaear ac uwchlaw a risg difrod i wasanaethau
  7. asesu goblygiadau gweithio gerllaw priffyrdd, rheilffyrdd, dŵr ac adeiladau, a chymryd y camau priodol
  8. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith, a all atal neu osod amodau ar y gwaith coed brys sydd i’w wneud
  9. asesu’r angen am ddarparu golau artiffisial a sut gellir gwneud hyn
  10. asesu’r dulliau diogelaf o dynnu coeden sydd wedi methu ar led a’i gwaredu
  11. pennu’r cyfarpar sy’n ofynnol i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys yn ddiogel
  12. pennu pa weithgareddau sy’n ddiogel ac yn briodol i’w cyflawni adeg yr argyfwng, a pha rai y gellir  eu cyflawni maes o law
  13. cytuno ar linellau gorchymyn a system gyfathrebu effeithlon ac effeithiol gyda chydlynydd yr ymateb ac eraill ar y safle, a’u sefydlu
  14. cytuno ar gynllun brys a dull gweithio sy’n briodol i ddiogelwch pawb sydd ynghlwm, y safle a chymhlethdod y sefyllfa, yn unol â’r risgiau a aseswyd, a’u sefydlu
  15. cadarnhau bod y cynllun brys yn lleihau tarfu ar ddefnyddwyr y safle
  16. cadarnhau bod systemau priodol ar waith i amddiffyn aelodau’r tîm gwaith coed, defnyddwyr eraill y safle a’r cyhoedd
  17. cadarnhau bod staff y tîm gwaith coed yn briodol o gymwys a phrofiadol i weithredu’r cyfarpar gofynnol a chyflawni gweithrediadau gwaith coed brys yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  18. paru sgiliau a phrofiad y staff i’r gweithrediadau gwaith coed ac i gymhlethdod y sefyllfa
  19. briffio aelodau’r tîm gwaith coed am y tasgau penodol sy’n ofynnol
  20. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  21. cadarnhau gweithdrefnau ar gyfer delio â phren a sgil-gynhyrchion sy’n cael eu creu gan y gweithrediadau gwaith coed brys
  22. cadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus yn dilyn y gweithrediadau gwaith coed brys
  23. cynnal cofnodion yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol, cyfarpar arall ac offer sy’n ofynnol ar gyfer y gweithrediadau gwaith coed brys
  2. pwysigrwydd paratoi’r cit a’r cerbyd ymateb brys cyn unrhyw argyfwng
  3. y gwahanol lefelau o argyfwng, yr adnoddau sydd eu hangen a sut i flaenoriaethu argyfyngau
  4. sut i ddosbarthu’r tîm ymateb brys yn effeithlon ac yn effeithiol
  5. pwysigrwydd cydweithredu â chydlynydd yr ymateb a’r manylion y dylid eu sicrhau
  6. y sefyllfaoedd pan na fyddai’n bosibl nac yn briodol ymateb i argyfwng gwaith coed
  7. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â safle a sefyllfa’r argyfwng a’r gweithrediadau gwaith coed sy’n ofynnol
  8. sut gall cymhlethdod y safle a’r sefyllfa effeithio ar weithrediadau gwaith coed
  9. sut i nodi presenoldeb ac arwyddocâd cyfleustodau
  10. goblygiadau gweithio gerllaw priffyrdd, rheilffyrdd, dŵr ac adeiladau, a’r camau y mae angen eu cymryd
  11. y gofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith coed brys sydd i’w wneud
  12. pryd mae angen darparu golau artiffisial a sut i wneud hyn
  13. sut i sicrhau safleoedd ar gyfer gweithio diogel ac effeithiol, gan gynnwys lleoliad a safle cywir arwyddion rhybudd a dulliau rheoli mynediad
  14. sut i bennu’r cyfarpar mwyaf priodol i’w ddefnyddio i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys a chynnal diogelwch aelodau’r tîm gwaith coed
  15. sut i bennu’r gweithgareddau sy’n ofynnol i wneud yr argyfwng yn ddiogel a’r rhai sy’n gallu cael eu gadael tan rywbryd eto
  16. pwysigrwydd cytuno ar systemau cyfathrebu effeithlon ac effeithiol gyda chydlynydd yr ymateb ac eraill ar y safle, a’u sefydlu
  17. sut i sefydlu cynllun brys a dull gweithio sy’n briodol i ddiogelwch y bobl sy’n gysylltiedig, y safle a chymhlethdod y sefyllfa, yn unol â’r risgiau a aseswyd
  18. beth ddylai gael ei ystyried wrth ddatblygu cynllun brys
  19. pwysigrwydd gwirio bod aelodau’r tîm gwaith coed yn briodol o gymwys a phrofiadol i weithredu’r peiriannau gofynnol a chyflawni gweithrediadau gwaith coed brys
  20. pwysigrwydd briffio aelodau’r tîm gwaith coed am y tasgau sy’n ofynnol
  21. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol
  22. sut y dylid delio â’r pren a’r sgil-gynhyrchion o’r gweithrediadau gwaith coed brys
  23. pwysigrwydd gadael y safle mewn cyflwr diogel a thaclus yn dilyn y gweithrediadau gwaith coed brys
  24. y cofnodion y mae angen eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Sut i weithio yn y sefyllfaoedd canlynol:
·        gerllaw adeiladau neu gyfleustodau uwchben
·        gerllaw’r briffordd neu’r rheilffordd
·        gerllaw dŵr
·        gyda choed sydd wedi disgyn
·        gyda choed sydd wedi’u difrodi neu sydd â chlefyd
·        gydag adeiladau sydd wedi’u difrodi
·        mewn tywydd gwael
·        gyda llinellau pŵer uwchben sydd wedi’u difrodi, a all fod yn fyw
·        gyda cheblau uwchben sydd wedi’u difrodi
·        gyda chyfleustodau tanddaearol sydd wedi’u difrodi
·        gyda draeniau sydd wedi byrstio
·        gyda thrychinebau amgylcheddol: carthion ac ati.
·        o dan oleuadau artiffisial

Sut i gyflawni’r gweithrediadau gwaith coed brys canlynol:
·        coed sydd wedi dadwreiddio’n rhannol a choed sydd heb syrthio i’r ddaear
·        coed sydd wedi torri neu dorri’n rhannol, ond sydd heb ddadwreiddio
·        methiant rhannol coeden
·        methiant cyfan coeden
·        torri platiau gwreiddiau
·        winsio, cynnal a chodi
·        cwympo â chymorth
·        torri corun coeden i lawr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gofynion statudol gynnwys:
Gorchmynion cadw coed
·       Ardaloedd cadwraeth
·       Deddfwriaeth amgylcheddol
·       Trwyddedau cwympo
·       Ardaloedd dynodedig e.e. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
·       Nodweddion archaeolegol neu hanesyddol
·       Cyrsiau dŵr a chanllawiau sydd ar waith i’w hamddiffyn/diogelu
·       Ystyriaethau amwynder a thirwedd

Cydlynydd yr ymateb e.e.
·       y frigâd dân
·       yr heddlu
·       cynrychiolydd cwmni cyfleustod
·       awdurdod lleol
·       sefydliad cyfrifol arall


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw17

Galwedigaethau Perthnasol

Coedwigaeth, Coedyddiaeth

Cod SOC

5117

Geiriau Allweddol

brys; gwaith coed; cynllunio; cyfarpar; digwyddiad