Trin neu dynnu bonion coed
URN: LANTw16
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thrin neu dynnu bonion coed sydd wedi eu gadael ar ôl cynnal gwaith coed.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio triniaethau cemegol a/neu fiolegol ar gyfer bonion a defnyddio offer motor-llaw neu fecanyddol i dynnu bonion. Gall hyn gynnwys defnyddio winshis (llaw neu fotor) a pheiriannau prosesu bonion.
Wrth weithio gyda chemegau neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- adnabod y bonion coed a'r gwreiddiau i gael eu trin neu eu tynnu, ac asesu eu cyflwr
- lleoli, osgoi ac amddiffyn gwasanaethau ac eiddo cyfleustodau
- paratoi bonion coed a gwreiddiau yn unol â'ch asesiad o'u cyflwr a chyda'r fanyleb
- defnyddio dulliau trin sy'n briodol i gyflwr bonyn y goeden a'r gwreiddyn, y fanyleb, deddfwriaeth berthnasol, y sefyllfa a chanllawiau'r diwydiant
- defnyddio dulliau tynnu mecanyddol sy'n briodol i gyflwr y bonyn a'r gwreiddyn, yn ymwneud â'r fanyleb, y sefyllfa a chanllawiau'r diwydiant
- symud yr holl wastraff a'r deunyddiau dros ben a'u gwaredu fel y nodir
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- dilyn yr arfer da amgylcheddol a sefydlwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i'w cynnal a'u defnyddio'n ofalus ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- sut i adnabod, lleoli ac adnabod gwasanaethau ac eiddo cyfleustodau a pham y mae hyn yn bwysig
- sut i ddewis y dull priodol o drin neu dynnu, yn seiliedig ar gyflwr presennol bonyn y goeden
- y dulliau biolegol o drin bonyn y goeden a sut i wybod pryd y dylid defnyddio'r dulliau hyn
- sut i angori'r winsh yn gywir ac addasrwydd cydrannau'r winsh wrth dynnu bonion y coed
- y dulliau cywir o waredu deunydd dros ben a/neu wastraff
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANTw16
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Tirluniwr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
trin; tynnu; bonion; coeden