Paratoi a gweithredu peiriant sylfaen ag atodion
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gweithredu peiriant sylfaen sy’n gallu cael ei ddefnyddio gydag amrywiaeth o atodion i gyflawni gweithgareddau coedwigaeth.
Gall peiriant sylfaen fod ar olwynion neu â thraciau.
Mae defnydd cymwys o beiriant sylfaen ag atodion yn gofyn am sgil a gwybodaeth sylweddol. Bydd angen i chi ymgymryd â hyfforddiant penodol a dal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’r safon yn cynnwys defnyddio peiriannau sylfaen gydag amrywiaeth o atodion mewn amrywiaeth o amodau tywydd, amodau tir a thirwedd. Bydd yr amodau hyn yn effeithio ar drin a defnyddio’r peiriant sylfaen a’r atodion.
Wrth ddefnyddio’r peiriant sylfaen ar y briffordd, bydd angen y trwyddedau priodol ar eich cyfer chi a’r peiriant arnoch chi.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau ar y safle
- dewis y peiriant sylfaen cywir ar gyfer y gwaith sydd i’w gyflawni, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
- paratoi’r peiriant sylfaen trwy wneud gwiriadau ac addasiadau cyn dechrau, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gan gynnwys pob gard diogelwch
- cadarnhau bod y peiriant sylfaen yn ddiogel ac yn barod i’w ddefnyddio, a chwblhau’r ddogfennaeth fel bo’r gofyn
- gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr i fodloni eich gofynion personol
- dewis yr atodion priodol i wneud y gwaith gofynnol
- gwirio bod yr atodion yn addas i’r peiriant sylfaen
- gwirio bod yr atodion wedi’u ffitio’n dynn ac yn ddiogel
- archwilio’r ardal waith uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud
- defnyddio’r arwyddion rhybudd cywir bob amser
- gweithredu a symud y peiriant sylfaen yn ddiogel, mewn ffordd sy’n gyson â’r math o gerbyd, atodyn a’r weithred
- sicrhau bod yr atodyn mewn safle cludo pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- addasu gweithdrefnau gweithredu i ystyried unrhyw newidiadau o ran trosglwyddo pwysau, amodau’r tir, mathau o dirwedd, tywydd a chyfyngiadau’r safle
- defnyddio camau diogelu ychwanegol wrth symud am yn ôl neu symud, a chydymffurfio â phellteroedd diogelwch gerllaw ffyrdd a llwybrau neu lle mae pobl eraill yn gweithio
- cynnal effeithlonrwydd perfformiad y peiriant sylfaen a’r atodyn trwy drin a chynnal a chadw priodol
- delio ag unrhyw beryglon a rhwystrau yn ystod y gweithredu, yn unol ag arfer safonol
- monitro sut mae’r atodyn yn gweithredu ac adnabod unrhyw namau
- stopio ac ynysu’r peiriant sylfaen ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- tynnu’r atodyn, lle bo’n briodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gadael y peiriant sylfaen a’r atodyn yn ddiogel ar ôl eu defnyddio ac mewn cyflwr addas i’w defnyddio yn y dyfodol
- gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sylfaenol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- dilyn arfer da amgylcheddol yn ôl yr hyn sydd wedi’i osod gan eich sefydliad a’r diwydiant, a lleihau difrod amgylcheddol
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd parthau risg a’r rheolaeth ar barthau risg
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE)
- y ddeddfwriaeth bresennol yn gysylltiedig â defnyddio peiriannau sylfaen ac atodion a’r gofynion cyfreithiol am wirio cyfarpar
- y gwiriadau ac addasiadau gofynnol cyn dechrau ar gyfer y peiriant sylfaen a’r atodion, y rhesymau pam mae’n rhaid cyflawni’r rhain a phryd mae angen eu cofnodi
- y gofynion am strwythurau amddiffyn i’r peiriant a’r gweithredwr
- y weithdrefn ar gyfer llwytho a dadlwytho’r peiriant sylfaen a’r atodion o’r lori gludo, lle bo’n briodol
- sut i esgyn i’r peiriant sylfaen, a dod oddi arno, yn ddiogel
- sut i ddechrau a stopio’r peiriant sylfaen, gan gynnwys y gweithdrefnau cywir ar gyfer gwthdanio
- swyddogaeth yr holl reolyddion ac offerynnau ar gyfer y peiriant sylfaen a’r atodyn, gan gynnwys systemau cyfrifiadurol ar y peiriant, lle y gosodwyd y rhain
- y mathau o atodion sy’n ddiogel i’w defnyddio gyda’r peiriant sylfaen a sut mae’r rhain wedi’u gosod
- yr amodau y dylid cyfrif amdanynt wrth ystyried defnyddio atodion
- sut i osod neu raddnodi atodion, lle bo angen
- y defnydd priodol o arwyddion rhybudd a chyfeirwyr
- ffyrdd y dylid gweithredu a symud y peiriant sylfaen, a sut mae’n rhaid cyfrif am wahanol dywydd, amodau tir, mathau o dirwedd a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- yr amrywiol nodweddion a thechnegau gyrru ar gyfer gyrru peiriant sylfaen gyda ffurfweddiadau gwahanol ar gyfer yr olwynion
- gosod cymhorthion tyniant yn gywir a manteision ac anfanteision eu defnyddio
- sut i weithredu a defnyddio atodion yn ddiogel, gan gynnwys y gwrthbwys
- goblygiadau trosglwyddo pwysau i sefydlogrwydd y peiriant a sut mae hyn yn effeithio ar ei weithredu ar lethrau, gan gynnwys llethrau ochr
- y rheolyddion a’r gwasanaethau trydanol ar y peiriant sylfaen a’r atodyn
- sut i roi’r atodyn mewn safle cludo a safle gweithio, lle bo’n briodol
- galluoedd y peiriant sylfaen a’r ffactorau a allai effeithio ar ei effeithlonrwydd
- y mathau o beryglon a rhwystrau y gallech ddod ar eu traws a sut dylid delio â’r rhain
- sut i fonitro sut mae’r atodyn yn gweithredu a’r camau gweithredu y gallai fod eu hangen
- namau, diffygion a thraul y rhannau sy’n digwydd mewn atodion a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau gwaith coed
- sut i ddiogelu effeithlonrwydd y peiriant sylfaen a’r atodyn trwy wiriadau arferol y gweithredwr a chynnal a chadw sylfaenol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- sut i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau sylfaenol a phryd i gyfeirio problemau â’r peiriant sylfaen neu’r atodyn
- y rhesymau pam dylai’r peiriant sylfaen a’r atodyn gael eu gadael mewn cyflwr addas i’w defnyddio yn y dyfodol, gan gynnwys ail-lenwi â thanwydd neu ailwefru, lle bo’n briodol
- sut i osod a defnyddio ardaloedd cyflenwi tanwydd a chynnal a chadw, lle bo’n briodol, a phwysigrwydd cynnal diogelwch tanwydd
- sut i ddelio â gollyngiadau tanwydd, gan gynnwys defnyddio citiau gollyngiadau a sut i roi gwybod am ollyngiadau
- pwysigrwydd lleihau difrod amgylcheddol ac atal digwyddiadau llygredd, gan gynnwys llygredd gwasgaredig
- y problemau a all godi wrth weithredu peiriant sylfaen ag atodiadau, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae atodion yn cynnwys:
- ar drelar
- wedi’u gosod ar y blaen neu ar y cefn
- Ilwythwyr
- cyfarpar a yrrir gan PTO ac yn hydrolig
Ffactorau effeithlonrwydd:
- gosodiad cyflymder trawsyrru
- hydroleg
- pwysedd teiars
- gwrthbwys
- balast
- cylchdroeon yr injan
Amodau’r tir:
- gwlyb
- sych
- rhew
- ia
- llaid
- tir chwâl
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio yn amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- rheolyddion llywio a symud
- system frecio
- drychau a/neu gamerâu
- gwregys
- medryddion monitro
- paneli gwybodaeth
- sgriniau Technoleg Gwybodaeth
- rhybuddion gweledol a chlywedol
- system gyfathrebu
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Strwythurau amddiffyn:
- Strwythurau Amddiffynnol y Gweithredwr (OPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Rholio (ROPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Gwrthrychau sy’n Disgyn (FOPS)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Tirwedd:
- arwynebau caled
- arwynebau meddal
- arwynebau anwastad
- llethrau