Prosesu coed sydd wedi’u cwympo

URN: LANTw15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i brosesu coed sydd wedi’u cwympo a chreu cynhyrchion pren. Mae prosesu’n cyfeirio at y prosesu sylfaenol a wneir ar safle.

Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • torri canghennau mawr/tocio
  • trawstorri
  • cynhyrchu cynhyrchion pren
  • graddio a phentyrru pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion

Bydd pren o dan dyniant isel a chymedrol yn cael ei drawstorri, ond nid pren o dan dyniant eithriadol a geir mewn coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt. Nid yw torri platiau gwreiddiau wedi’i gynnwys.

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a wneir a dylech ddal ardystiad cyfredol lle bo’r angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.

Mae’r safon hon i bob gweithredwr gwaith coed.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni
  3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  5. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  6. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  7. cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
  8. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  9. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  10. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  11. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  12. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  13. cynnal bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  14. ystyried effaith clefyd, diffygion a dirywiad ar y weithred brosesu a cheisio cyngor lle nad ydych chi’n sicr
  15. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  16. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  17. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  18. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Torri canghennau mawr/tocio coed gan ddefnyddio llif gadwyn

  1. tynnu canghennau o goed sydd wedi’u cwympo yn ddiogel gan ddefnyddio llif gadwyn a dulliau cydnabyddedig sy’n briodol i batrwm, maint, ffurf a chyflwr canghennau’r goeden, gan adael y cyff, yn unol â manylebau’r cynhyrchion a ddarperir
  2. turnio coed a/neu waredu canghennau is yn ddiogel gan ddefnyddio offer a chyfarpar priodol
  3. cadarnhau eich bod yn delio â sgil-gynhyrchion yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle a gofynion amgylcheddol

Trawstorri coed gan ddefnyddio llif gadwyn

  1. archwilio pren y torrwyd canghennau mawr oddi arno neu sydd wedi’i docio i nodi tyniant a chywasgedd cyn trawstorri, yn unol â gofynion diogelwch
  2. trawstorri pren i’r hyd gofynnol yn ddiogel gan defnyddio llif gadwyn a dulliau cydnabyddedig sy’n briodol i ddiamedr a chyflwr y pren, yn ogystal ag i hyd y bar llithro yn unol â manylebau’r cynhyrchion a ddarperir
  3. defnyddio toriadau tyllu priodol i gychwyn naill ai doriadau tyniant neu gywasgedd lle mae mynediad i far yn gyfyngedig

Cynhyrchu cynhyrchion pren

  1. gosod a rhoi cyfarpar prosesu yn ei le yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau gweithredu’r safle
  2. llwytho cyfarpar prosesu â phren i’w brosesu yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle ac asesiadau risg
  3. prosesu pren i gynhyrchu cynhyrchion pren yn unol â manylebau’r cynhyrchion a ddarperir a gweithdrefnau gweithredu’r safle
  4. monitro cyfarpar am falurion, rhwystrau a bod pren yn llifo’n rhydd i sicrhau bod y cyfarpar yn gweithio’n ddiogel
  5. cwblhau gweithdrefnau cau i lawr, yn addas ar gyfer y cyfarpar, yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

Graddio a phentyrru pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion

  1. graddio, trin a phentyrru pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion gan ddefnyddio’r cymhorthion a’r offer perthnasol, yn unol â manylebau’r cynhyrchion a ddarperir a gweithdrefnau gweithredu’r safle
  2. gwirio bod pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion sy’n cronni o fewn y terfynau penodedig ac nad ydynt yn effeithio ar ddiogelwch y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  4. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, y rheolaeth ar barthau risg a chliriadau diogel rhag dargludyddion trydan uwchben, a beth i’w wneud os bydd cysylltiad â llinellau pŵer
  5. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo
  6. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  7. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  8. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
  9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  10. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
  11. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
  12. pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
  13. sut i nodi rhywogaethau coed o ddarnau o bren a sut mae pren gwahanol rywogaethau coed yn cael ei ddefnyddio
  14. sut i ddehongli manylebau’r cynhyrchion i bennu’r gofynion prosesu
  15. pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefyd, diffygion a dirywiad yn y goeden rydych chi’n gweithio arni a sut gallai hyn effeithio ar brosesu
  16. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
  17. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  18. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith gorffenedig yn bodloni’r gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd
  19. y problemau a all godi wrth brosesu coed sydd wedi’u cwympo a chreu cynhyrchion pren, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  20. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  21. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Torri canghennau mawr/tocio coed gan ddefnyddio llif gadwyn

  1. y camau diogelu sy’n ofynnol wrth dorri canghennau mawr/tocio coed ac anghenraid a manteision gadael cyff glân
  2. sut bydd y dull torri canghennau mawr/tocio coed yn amrywio yn ôl rhywogaeth y goeden, ei ffurf a’i chyflwr, a’r camau diogelu sy’n ofynnol pan fydd canghennau neu rannau yn unionsyth neu’n hongian dros y gweithredwr
  3. sut i nodi tyniant a chywasgedd mewn canghennau a’u goblygiadau i’r dewis o ddull torri
  4. sut a phryd i ddefnyddio cyfarpar ychwanegol, i gynorthwyo â thorri canghennau mawr/tocio coed sydd wedi’u cwympo
  5. yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir i durnio coed sydd wedi’u cwympo a’r camau diogelwch ychwanegol sy’n ofynnol i durnio coeden a/neu dynnu canghennau o’r ochr isaf
  6. y dulliau cywir o ddelio â sgil-gynhyrchion yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Trawstorri coed gan ddefnyddio llif gadwyn

  1. sut i nodi a barnu lefelau a chyfeiriad tyniant a chywasgedd mewn pren a’r dulliau trawstorri y gellir eu defnyddio
  2. dulliau cydnabyddedig o drawstorri pren gan defnyddio llif gadwyn, sydd uwchlaw ac islaw hyd y bar llithro
  3. y rhagofalon i’w cymryd i atal boncyffion rhag rholio yn ystod trawstorri
  4. sut i symud neu rholio pren i’w brosesu yn ddiogel â llaw neu gan ddefnyddio offer neu beiriannau a dilyn gweithdrefnau pentyrru diogel

Cynhyrchu cynhyrchion pren

  1. sut i osod ardaloedd gweithio diogel ar gyfer prosesu pren, gan gynnwys safle’r prosesydd pren a’r pren sy’n barod i’w drawsnewid, ynghyd ag ardaloedd pentyrru’r cynhyrchion a’r sgil-gynhyrchion
  2. goblygiadau tirwedd, amodau’r tir, y tymor a’r tywydd i’r ardaloedd gweithio, ac i ddefnyddio peiriannau
  3. y gwahanol fathau o beiriannau prosesu pren sydd ar gael a’u galluoedd a’u cyfyngiadau
  4. sut i ddefnyddio peiriannau prosesu pren a’r technegau a’r camau diogelu angenrheidiol, gan gynnwys y stop brys
  5. arwyddion bod peiriant yn gweithredu’n annormal a sut i dynnu rhwystr o’r cyfarpar llwytho a gollwng yn ddiogel
  6. goblygiadau trosi pren hir i weithrediad peiriannau, gan gynnwys cynhyrchu cynhyrchion hir fel rheiliau hollt ar lif gron
  7. gweithdrefnau cau’r peiriant i lawr

Graddio a phentyrru cynhyrchion a sgil-gynhyrchion pren

  1. dulliau graddio, trin a phentyrru pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion, gyda chymorth peiriannau trin neu ddefnyddio technegau codi a chario diogel
  2. y camau diogelu sy’n ofynnol pan fydd pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion yn cael eu cadw gerllaw ffyrdd a llwybrau o ran sefydlogrwydd a gofynion am arwyddion rhybudd

Cwmpas/ystod

Gallai gweithgareddau prosesu gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • torri canghennau mawr/tocio
  • trawstorri
  • cynhyrchu cynhyrchion pren
  • graddio a phentyrru pren, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Risgiau iechyd a diogelwch o ddefnyddio llif gadwyn:

  • cael eich torri gan y llif
  • cael eich taro neu’ch gwasgu gan bren sy’n symud
  • colli’ch clyw oherwydd sŵn
  • cryndod y llaw a’r fraich (HAV)
  • mygdarth gwacau o lifoedd cadwyn sy’n rhedeg ar betrol
  • amlygiad i olewau
  • amlygiad i lwch
  • effeithiau blinder/syched ar y gallu i weithio’n ddiogel
  • cyfarpar neu weithgareddau gwaith eraill ar y safle

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Gallai cyfarpar prosesu gynnwys: llifoedd cadwyn, meinciau llif symudol, proseswyr coed tân, holltwyr stanciau, peiriannau miniogi, crafu, tynnu rhisgl, peiriannau creu sglodion pren ar dractor neu hunanyredig ar draciau, peiriannau malu ar gerbyd neu ar drelar, llifanwyr llorweddol a llifanwyr twbyn.

Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw40

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llif gadwyn a pheiriannau coedwig

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

pren; prosesu; peiriannau; llif gadwyn; mainc llif symudol; prosesydd coed tân; holltwr stanciau; peiriant miniogi; crafu; tynnu rhisgl; peiriant creu sglodion pren