Deilliannau proses yn sgil gweithrediadau gwaith coed

URN: LANTw15
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu deilliannau yn sgil gweithrediadau gwaith coed.

Gallai prosesu a gwaredu gynnwys llacio, llosgi, claddu, lleihau, ailddefnyddio neu ledaenu.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu'r dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. paratoi'r deilliannau o'r gwaith coed yn unol â'r fanyleb, y safle, deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau'r diwydiant
  7. prosesu'r deilliannau o'r gweithgareddau gwaith coed sy'n briodol ar gyfer eu cyflwr, y fanyleb a gofynion y safle
  8. cyfathrebu gydag eraill a chynnal gwaith tîm effeithiol
  9. ymdrin ag unrhyw broblemau o fewn lefel eich cyfrifoldeb
  10. dilyn yr ymarfer da amgylcheddol a osodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
  11. sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
  12. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. y defnydd gwahanol ar gyfer y deilliannau yn cynnwys; llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach, ailddefnyddio fel cynnyrch arall
  7. sut i ddewis y dull priodol o brosesu'r deilliannau o'r gweithgareddau gwaith coed
  8. sut i ddewis y dull priodol o waredu neu gludo'r deilliannau ymlaen o'r gweithrediadau gwaith coed
  9. sut i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â gwaredu, cludo a storio'r deilliannau o'r gweithrediadau gwaith coed
  10. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  11. pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch weithio gydag eraill i brosesu deilliannau
  12. pwysigrwydd gwirio pa mor dda y gwnaethoch ymdrin ag unrhyw broblemau wrth brosesu deilliannau
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw15

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Tirluniwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

deilliannau; gwaith coed; proses