Paratoi a chynnal safle gwaith diogel ar gyfer gwaith coed
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal safle gwaith diogel ar gyfer gweithrediadau gwaith coed. Mae'r safon yn cynnwys paratoi a chynnal safleoedd gwaith coed, cefnogi a chynorthwyo cydweithwyr a gwaredu unrhyw ddeilliannau.
Mae angen i unrhyw un sydd yn gysylltiedig â gosod arwyddion rhybudd ar briffyrdd cyhoeddus gael eu goruchwylio gan berson cymwys yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cyfathrebu'n effeithiol gyda phawb sy'n gysylltiedig trwy gydol eich gwaith
- paratoi a gosod y safle gwaith ar gyfer gweithrediadau gwaith coed diogel
- gweithredu'r rheolyddion priodol i gynnal gweithrediadau gwaith coed diogel
- gweithredu rheolyddion amgylcheddol gan ystyried asesu'r effaith ac agweddau amgylcheddol
- cynnal diogelwch a diogeledd peiriannau ac offer ar y safle
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- elfennau allweddol datganiad dull mewn perthynas â gweithrediadau gwaith coed diogel
- sut i baratoi a gosod safleoedd ar gyfer gwaith diogel ac effeithiol
- lleoliad a safle cywir arwyddion rhybudd a rheolyddion mynediad, a'r gofynion deddfwriaethol a chodau ymarfer y diwydiant sy'n llywodraethu'r rhain
- sut mae'r rhywogaethau a chyflwr y coed yn effeithio ar weithrediadau
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a'r rheolyddion amgylcheddol y gellir eu defnyddio i leihau hyn
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Rheoli diogelwch a diogeledd y canlynol ar y safle:
- cymhorthion dringo
- offer tocio
- offer iselhau
- tanwydd
- cerbydau a pheiriannau
- deunyddiau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ardaloedd gwaith – mae'n cynnwys ychwanegu tanwydd a gwaredu i sicrhau gweithio diogel ac effeithlon
Rheolyddion, effeithiau ac agweddau amgylcheddol - ystlumod, moch daear, cyrsiau dŵr, sŵn, ffawna, fflora