Gwneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn ar lif gadwyn a system dorri
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i wneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn ar lif gadwyn a system dorri, gan gynnwys y bar llithro.
Gall llifiau cadwyn redeg ar betrol neu ar fatri.
Mae llifiau cadwyn sy’n cael eu defnyddio mewn gwaith o’r awyr ac ar y tir wedi’u cynnwys yn y safon hon.
Gallai gwaith cynnal a chadw gael ei wneud mewn gweithdy neu ar safle.
Wrth weithio gyda llifiau cadwyn, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon i bobl sy’n defnyddio llif gadwyn i gyflawni eu gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r man gweithio a’r gweithgareddau cynnal a chadw i’w cyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- cadarnhau bod y nodweddion diogelwch ar y llif gadwyn yn bresennol ac yn gweithio
- dewis a defnyddio’r offer cynnal a chadw priodol ar gyfer uned bŵer y llif gadwyn a’r system dorri, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- archwilio, glanhau, gwasanaethu a chynnal a chadw uned bŵer y llif gadwyn, yn unol â chyfarwyddyd y gwneuthurwr a chanllawiau’r diwydiant
- archwilio a chynnal a chadw’r system dorri, yn unol â chyfarwyddyd y gwneuthurwr a chanllawiau’r diwydiant
- newid cydrannau sydd â difrod iddynt, sydd ar goll neu sydd wedi treulio
- dilyn y gweithdrefnau gofynnol lle nodir difrod neu ddiffygion
- rhoi’r llif gadwyn a’r system dorri yn ôl at ei gilydd, i safon weithredol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gweithgareddau cynnal a chadw
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r man gweithio a’r gweithgareddau cynnal a chadw i’w gwneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- yr offer cynnal a chadw a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- pam mae’n bwysig cynnal a chadw llifiau cadwyn a systemau torri i safon uchel
- sut i ddefnyddio rhestr wirio cynnal a chadw neu daflen adrodd
- y rhesymau pam mae nodweddion diogelu yn cael eu ffitio ar lifiau cadwyn a sut maen nhw’n gweithio
- yr ardaloedd allweddol y mae angen eu cadw’n glir rhag malurion yn ystod gweithredu
- pwyntiau diogelwch gweithredol allweddol llif gadwyn a system dorri
- swyddogaeth a gofynion cynnal a chadw cydrannau unigol
- sut i nodi dangosyddion allweddol gosodiad cywir cydrannau unigol llif gadwyn
- y rhesymau pam mae’n bwysig gwirio’r gadwyn a’r bar llithro am draul a difrod
- y symptomau a’r problemau byddwch yn dod ar eu traws pan fydd y gadwyn a’r bar llithro wedi treulio, wedi difrodi neu heb gael eu cynnal a chadw’n dda, a sut i ddelio â nhw o fewn lefel eich cymhwysedd a’ch cyfrifoldeb
- sut i wirio cydnawsedd y bar llithro, y sbroced a’r gadwyn
- terfynau derbyniol traul i gydrannau’r system dorri cyn bod rhaid eu newid
- y gweithdrefnau i’w dilyn os bydd difrod neu draul i'r cydrannau y tu hwnt i'r terfynau argymelledig
- sut mae cadwyn dorri yn gweithio
- gwahanol fathau o gadwyn a’r defnydd ohonynt
- pwysigrwydd dewis meintiau cywir y ffeil a’r medrydd wrth finiogi a gosod y dyfnder torri ar y gadwyn, ac o ble i gael y fanyleb ar gyfer hyn
- y camau i’w cymryd pan nad yw hi’n bosibl atgyweirio llif gadwyn neu system dorri, pan fydd nam arnynt neu pan na fyddant yn gweithio
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth cynnal a chadw llif gadwyn a system dorri
Cwmpas/ystod
Glanhau, gwasanaethu a chynnal a chadw llif gadwyn sy’n rhedeg ar betrol:
- glanhau
- plwg tanio
- hidlydd aer
- mecanwaith cychwyn
- brêc y gadwyn
- hidlyddion tanwydd ac olew
- systemau olew
- archwilio mecanwaith y cydiwr
- archwilio’r beipen wacáu
- archwilio bar llithro cydnaws cadwyn
- archwilio’r gadwyn
- archwilio cyfuniadau sbrocedi
Glanhau, gwasanaethu a chynnal a chadw llif gadwyn sy’n rhedeg ar fatri:
- glanhau
- brêc y gadwyn
- hidlydd olew
- systemau olew
- archwilio bar llithro cydnaws cadwyn
- archwilio’r gadwyn
- archwilio cyfuniadau sbrocedi
- archwilio cyflwr y batri
- ailwefru’r batri
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer).
Mater o drefn – cynnal a chadw cywirol ac ataliol sy’n cael ei gyflawni’n ddyddiol neu’n rheolaidd gan y gweithredwr cyn ac yn ystod gwaith.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Nodweddion diogelwch
- gard dwylo ar y cefn
- switsh ddiffodd (petrol yn unig)
- cyd-gloi’r throtl
- decalau diogelwch
- system/mowntiau lleihau dirgrynu (petrol yn unig)
- daliwr cadwyn
- brêc y gadwyn a gard dwylo ar y blaen
- pibell wacau sy’n wynebu’r blaen (petrol yn unig)
- cyfuniad cadwyn a bar llithro sy’n cynnig llai o ôl-gic
- gwain