Gwella pridd er mwyn iechyd coed
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwella pridd o dan goed er mwyn cynnal iechyd coed. Gall hyn gynnwys coed unigol neu grwpiau o goed a gall ddigwydd mewn amodau trefol neu wledig. Mae gwella pridd yn arbennig o bwysig ar safleoedd sydd yn dioddef o gywasgiad, erydiad ac ar gyfer coed â gwerth amwynder.
Mae'r term "gwella" yn golygu cynnal a gwella ansawdd y pridd er mwyn iechyd y goeden.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gemegau, bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio'r offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- cynnal diogelwch peiriannau ac offer ar y safle
- asesu cyflwr y pridd er mwyn pennu ac argymell technegau gwella addas i wella iechyd y goeden
- darparu gwybodaeth am ganlyniad tebygol technegau gwella
- cynnal y gwaith a gytunwyd i wella'r pridd
- argymell ôl-ofal addas i atal cyflwr y pridd rhag dychwelyd yn y dyfodol
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn effeithiol
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
- sut i adnabod arwyddion a symptomau yn y goeden a/neu'r pridd sy'n awgrymu'r angen i wella'r pridd
- y dulliau o wella'r pridd a pryd y byddai bob un yn briodol i wella iechyd y goeden
- problemau ffisiolegol y goeden a'r hyn y bydd y driniaeth arfaethedig yn ei gyflawni
- pwysigrwydd rhoi cyngor cywir
- goblygiadau amodau tymhorol a daear ar gyfer eich gwaith
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau o wella pridd:
- taenu
- bwydo
- gwrteithiad arwyneb
- dadgywasgu niwmatig
- chwistrelliad micorhisol