Rheoli llystyfiant nas dymunir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli llystyfiant nas dymunir gan ddefnyddio dulliau priodol. Gallech fod yn gweithio i fanyleb benodol sy'n diffinio'r dulliau i'w defnyddio ond bydd disgwyl i chi bennu sut i wneud y dulliau hyn ar y safle.
Mae'r llystyfiant yn cynnwys cystadlu, twf peryglus ac eithafol. Mae'n ofynnol i chi leihau a/neu osgoi niwed i'r coed cyfagos, rhywogaethau eraill o blanhigion ac anifeiliaid ac i unrhyw strwythurau fel ffensys, llwybrau ac arwyddion.
Gall dulliau rheoli fod yn rhai â llaw, peiriannau llaw neu gemegol.
Gall offer "peirianyddol" gynnwys torrwr prysgwydd, llif gadwyn, llif clirio, strimiwr, ac ati.
Wrth weithio gyda peiriannau neu gemegau mae angen eich bod wedi eich hyfforddi'n briodol, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
- dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar priodol, yn ddiogel ac yn effeithiol
- cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
- adnabod llystyfiant y mae angen ei reoli
- rheoli llystyfiant nas dymunir yn unol ag arfer gorau a/neu fanyleb y diwydiant
- dilyn arfer da amgycheddol sefydliadol a diwydiant a lleihau niwed amgylcheddol
- cadw cofnodion priodol
- dileu'r holl wastraff a'r deunydd dros ben a'u gwaredu fel y nodir
- sicrhau bod y safle'n cael ei adael mewn cyflwr sy'n bodloni gofynion amgylcheddol, yn unol â'r fanyleb
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- sut i ddehongli asesiadau risg
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
- sut i adnabod llystyfiant nas dymunir
- sut i ddewis y dull a'r offer priodol ar gyfer rheoli llystyfiant
- goblygiadau sylfaenol tir, amodau da, llystyfiant, y tymor a'r tywydd
- effaith defnyddio cemegau ar yr amgylchedd a sut i leihau niwed amgylcheddol
- y defnydd o daenu/matiau taenu i gynorthwyo'r gwaith o reoli llystyfiant nas dymunir
- y mathau o niwed sy'n dderbyniol o dan amgylchiadau amrywiol
- y dulliau cywir o waredu deunydd a/neu wastraff dros ben
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a chodau ymarfer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybod sut i reoli'r mathau canlynol o lystyfiant nas dymunir:
- prennaidd
- llysieuol
- glaswellt
- cystadleuol
- peryglus
- hysbysadwy
- eithafol
Gwybod sut i ddefnyddio'r mesurau rheoli canlynol:
- cemegol
- mecanyddol
- â llaw