Gwneud gwaith amddiffyn a chynnal coed ar ôl eu plannu

URN: LANTw10
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud gwaith amddiffyn a chynnal coed ar ôl eu plannu, yn unol â'r fanyleb.  Mae hyn yn cynnwys amddiffyn y goeden rhag ystod o gyfryngau niweidiol fel pryfed, mamaliaid a'r tywydd yn ogystal â chynnal systemau cymorth a phlanhigion. Nid yw'n ymwneud â rheoli na rheoleiddio poblogaethau o blâu.

Gall amddiffyn a chynnal ar ôl plannu fod ar sawl ffurf, yn dibynnu ar y math o goeden, maint a natur y cynllun plannu.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gemegau, mae angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnsaol.

Mae'n rhaid i'ch gwaith gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth wneud y gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gweithredu dulliau gwaith priodol, yn unol â'r peryglon a aseswyd
  3. dewis a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  4. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar sydd yn briodol i'r gwaith, yn ddiogel ac yn effeithiol
  5. cadarnhau bod yr holl offer wedi cael ei wirio a'i fod yn addas at y diben
  6. gwirio mai'r rheiny a nodwyd yn y fanyleb yw'r holl ddeunyddiau
  7. gwirio bod yr holl deunyddiau mewn cyflwr da ac yn cyd-fynd â gofynion y fanyleb, a hysbysu'r person priodol ynghylch unrhyw ddiffygion neu namau i'r deunyddiau
  8. gwneud gwaith amddiffyn coed ar ôl eu plannu yn unol â'r fanyleb, gan osgoi niwed i'r coed a blannwyd ac i'r amgylchedd
  9. gwneud gwaith cynnal coed ar ôl eu plannu yn unol â'r fanyleb, gan osgoi niwed i'r coed a blannwyd ac i'r amgylchedd
  10. dilyn arfer da amgylcheddol a nodwyd gan eich sefydliad a'r diwydiant, a lleihau niwed amgylcheddol
  11. symud yr holl wastraff a'r deunyddiau dros ben a'u gwaredu fel y nodwyd
  12. cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill yr holl amser, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. dewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol (PPE)
  4. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol a sut i gynnal a chadw'r rhain a'u defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol yn unol ag argymhellion y cynhyrchydd
  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer gwirio offer
  6. sut i wirio bod cyflwr y deunyddiau yn foddhaol
  7. pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a cherbydau ar y safle
  8. cyfryngau niweidiol a sut i ddiogelu yn eu herbyn
  9. dulliau amddiffyn coed ar ôl eu plannu a phryd i'w defnyddio
  10. dulliau cynnal coed ar ôl eu plannu a sut cânt eu cymhwyso
  11. y dulliau cywir ar gyfer gwaredu deunyddiau dros ben a gwastraff
  12. effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut i gellir ei leihau
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod

​Gwneud dau o'r mathau canlynol o gynnal coed ar ôl eu plannu:

  • gwella pridd
  • dyfrïo
  • atgyweirio/adnewyddu amddiffyniad
  • cynnal systemau cymorth

Defnyddio pedwar o'r ystod ganlynol o amddiffyn coed ar ôl eu plannu:

  • gwarchodwyr coed
  • taenu
  • ffensio
  • rhwydo
  • stancio
  • gwarchodwyr a chwils
  • "dodrefn stryd" mewn planhigion addurniadol
  • systemau tanddaearol
  • rheoli poblogaeth

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

​Gwybod sut i ddewis dulliau o amddiffyn coed ar ôl eu plannu yn erbyn yr ystod ganlynol o gyfryngau niweidiol:

  • pryfed
  • ceirw
  • llygod y gwair
  • cwningod/ysgyfarnogod
  • fandaliaid
  • tywydd

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw10

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Coedlannu, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Garddwriaeth a choedwigaeth, Tirluniwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ôl-blannu; cynnal a chadw; cymorth; amddiffyn