Adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau, mewn cyd-destun masnachol neu hamdden. Gall hyn gynnwys adnabod coed sy’n sefyll a phren sydd wedi cwympo.
Mae adnabod rhywogaethau coed yn agwedd hollbwysig i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant coed a phren, ac mae dealltwriaeth o briodweddau coed yn hanfodol wrth weithio gyda choed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- cael a defnyddio’r offer adnabod a’r ffynonellau cyfeirio perthnasol er mwyn adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau yn gywir
- defnyddio nodweddion coed i gynorthwyo â’u hadnabod
- defnyddio nodweddion yr ardal gyfagos i gynorthwyo ag adnabod
- adnabod rhywogaethau coed ym mhob tymor
- adnabod coed cyffredin sy’n cael eu tyfu yn y DU gan ddefnyddio dosbarthiad a chyfundrefn enwau botanegol
- adnabod sut mae priodweddau coed yn dylanwadu ar ddulliau gweithio
- adnabod sut mae priodweddau pren yn dylanwadu ar y defnydd ohono
- adnabod genera coed o samplau o bren
- cynnal cofnodion adnabod coed cywir yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i’r safle a mesurau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- sut i ddefnyddio offer adnabod a ffynonellau cyfeirio i helpu ag adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol
- sut i ddefnyddio allweddi adnabod
- egwyddorion sylfaen dosbarthiad a chyfundrefn enwau botanegol
- pwysigrwydd defnyddio’r fformatau cywir wrth ddefnyddio enwau botanegol
- sut gall nodweddion coed gynorthwyo â’u hadnabod
- sut gall nodweddion yr ardal gyfagos gynorthwyo ag adnabod
- sut i adnabod coed mewn tymhorau gwahanol
- amrywiol gylchred bywyd planhigion a choed (dosbarthiadau oedran)
- yr amodau tyfu sy’n cael eu ffafrio gan wahanol rywogaethau coed
- sut mae effeithiau priodweddau coed yn dylanwadu ar ddulliau gweithio
- sut mae pren gwahanol rywogaethau coed yn cael ei ddefnyddio
- defnydd gwahanol rywogaethau coed yn y dirwedd mewn cyd-destun masnachol neu hamdden
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai nodweddion yr ardal gyfagos gynnwys:
- lleoliad – ardal yn y DU
- tirwedd – mynyddog, bryniog, gwastadedd, arfordirol ac ati
- amodau’r ddaear – creigiog, sych, llaith, tir prysg, corsiog ac ati
- nodweddion lleol – llystyfiant, gwrychoedd, caeau, coedwig, coetir, parc, gerllaw dŵr ac ati
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Mae nodweddion coed yn cynnwys:
- dail neu nodwyddau – math, siâp, maint, golwg, ansawdd a lliw
- maint a siâp cyffredinol y goeden
- blagur dail a brigau – trefn, siâp a golwg
- rhisgl – golwg, ansawdd, marciau a lliw
- cynefin tyfu
- blodau
- hadau a ffrwythau