Casglu, prosesu ac amddiffyn samplau profion diagnostig cleifion milfeddygol a chyfathrebu’r canlyniadau

URN: LANRVN9
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu a phrosesu samplau profion diagnostig gan gleifion milfeddygol a chyfathrebu canlyniadau’r profion. Mae hyn yn cynnwys trin ac atal y claf milfeddygol a monitro lles y claf.

Mae’r safon hon hefyd yn cynnwys amddiffyn samplau profion diagnostig gan ddefnyddio dulliau oergell a chemegol cyn cyfathrebu’r canlyniadau er mwyn i’r llawfeddyg milfeddygol wneud penderfyniad.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau hunaniaeth y claf milfeddygol, ei gyflwr a'r prawf diagnostig sy'n ofynnol
  2. asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gasglu, prosesu ac amddiffyn samplau profion diagnostig gan gleifion milfeddygol
  3. dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  4. dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer casglu, prosesu ac amddiffyn samplau profion diagnostig
  5. sicrhau bod y claf wedi ei sefydlu a'i atal, gan ddefnyddio'r dulliau a'r offer atal gofynnol
  6. nodi'r safle casglu sampl a chasglu neu gynorthwyo gyda'r gwaith o gasglu samplau profion diagnostig yn unol â chais y llawfeddyg milfeddygol
  7. monitro'r claf milfeddygol i ganfod unrhyw bryderon wrth gasglu samplau profion diagnostig
  8. trin, amddiffyn, labelu a storio samplau profion diagnostig yn gywir i'w prosesu ar gyfer eu dadansoddi'n allanol neu'n fewnol
  9. llenwi'r dogfennau angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau'r filfeddygfa
  10. pecynnu ac anfon samplau profion diagnostig y mae angen eu dadansoddi'n allanol yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol, polisi ymarfer milfeddygol a gofynion y labordy profi allanol
  11. cyflawni'r prawf perthnasol ar gyfer dadansoddi samplau diagnostig yn fewnol gan ddefnyddio'r offer profi diagnostig gofynnol yn ddiogel yn unol â phrotocolau ymarfer milfeddygol
  12. cael a chofnodi canlyniadau profion diagnostig allanol a mewnol yn unol â phrotocolau ymarfer milfeddygol
  13. nodi unrhyw ganlyniadau profion diagnostig annilys a chymryd camau unioni
  14. gwaredu deunydd dros ben a gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
  15. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  16. gwneud eich gwaith yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o gyflyrau milfeddygol a archwilir gan ddefnyddio profion diagnostig
  2. sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth gasglu, prosesu ac amddiffyn samplau profion diagnostig gan gleifion milfeddygol
  3. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  4. sut i ddewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer casglu, prosesu ac amddiffyn samplau profion diagnostig
  5. sut i sefydlu ac atal rhywogaethau gwahanol o gleifion milfeddygol ar gyfer mathau gwahanol o brofion diagnostig
  6. pam y mae'n bwysig cadarnhau bod sampl cywir yn cael ei gymryd oddi wrth y claf milfeddygol
  7. sut i gasglu'r samplau profion diagnostig gofynnol gan y claf milfeddygol
  8. sut i fonitro'r claf milfeddygol i ganfod pryderon corfforol ac ymddygiadol wrth gasglu samplau profion diagnostig
  9. sut i nodi ac adrodd ynghylch unrhyw bryderon a allai ddigwydd wrth gasglu samplau
  10. y manylion sy'n ofynnol ar gyfer labelu mewn perthynas â'r sampl prawf diagnostig a pham y mae'n bwysig eu cofnodi
  11. sut i drin, amddiffyn a storio mathau gwahanol o samplau profion diagnostig i osgoi difetha a halogi
  12. y rheoliadau a'r gweithdrefnau ymarfer milfeddygol perthnasol ar gyfer pecynnu ac anfon samplau profion diagnostig i'w dadansoddi'n allanol
  13. sut i gael a chofnodi canlyniadau profion diagnostig allanol a mewnol
  14. y gweithdrefnau ymarfer milfeddygol ar gyfer prosesu a dadansoddi data a samplau profion diagnostig ar gyfer mathau gwahanol o brofion diagnostig mewnol
  15. dangosyddion canlyniadau profion diagnostig annilys a sut i unioni neu hysbysu cydweithwyr neu asiantaethau allanol sy'n gyfrifol am ddadansoddi allanol  ynghylch y rhain
  16. sut i nodi paramedrau gofynnol mesuriadau ar gyfer samplau profion diagnostig
  17. sut i gyfathrebu canlyniadau'r profion diagnostig i aelodau'r filfeddygfa
  18. y gweithdrefnau cywir ar gyfer gwaredu deunydd dros ben a gwastraff
  19. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
  20. eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  21. eich cyfrifoldeb yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANVRN13

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

gofal anifeiliaid; samplau; trin