Derbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol. Mae’n cynnwys derbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol ar gyfer achosion llawfeddygol neu achosion meddygol.
Mae’n bwysig bod y nyrs filfeddygol gofrestredig yn sicrhau bod yr holl fanylion yn ymwneud â’r cleient, y claf milfeddygol, y rheswm dros dderbyn, hanes, bwyd a hylif a gymerir, pwysau ac unrhyw ofynion gofal arbennig i gyd yn cael eu cofnodi, a bod gweithdrefnau derbyn a rhyddhau yn cael eu dilyn.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau manylion y claf milfeddygol a’r driniaeth i’w cyflawni o’i gofnodion a chyda’r perchennog neu gynrychiolydd y perchennog (gwiriwch statws IX adran basbort - ceffylau yn unig)
sicrhau bod y perchennog neu gynrychiolydd y perchennog yn deall y triniaethau i’w cyflawni ar y claf milfeddygol, pam y mae’n rhaid eu cyflawni ac a oes unrhyw risg cysylltiedig
cadarnhau bod y ffurflen dderbyn yn cael ei llenwi gyda’r manylion sy’n ofynnol yn unol â gweithdrefnau’r filfeddygfa
sicrhau bod cynllun gofal milfeddygol wedi ei sefydlu ar gyfer y claf milfeddygol
cadarnhau bod y perchennog neu gynrychiolydd y perchennog wedi darllen, deall a llofnodi ffurflen gydsynio’r filfeddygfa
hysbysu’r perchennog neu gynrychiolydd y perchennog sut a phryd i gysylltu â’r filfeddygfa
cadarnhau bod y claf milfeddygol wedi ei nodi a’i atal yn barod i’w dderbyn yn y filfeddygfa
rhyddhau’r claf milfeddygol ar ôl cwblhau’r driniaeth filfeddygol a phan fydd mewn cyflwr i gael ei ryddhau
cadarnhau manylion y perchennog a’r claf milfeddygol sy’n cael ei ryddhau
rhyddhau’r claf milfeddygol i’w berchennog neu gynrychiolydd y perchennog gyda’i eiddo ac unrhyw wybodaeth berthnasol am driniaeth
derbyn a phrosesu taliadau ar gyfer triniaeth
esbonio a sicrhau bod y perchennog neu gynrychiolydd y perchennog yn deall yr ôl-ofal sydd ei angen ar y claf milfeddygol, yn cynnwys gweinyddu meddyginiaeth
cadarnhau bod y perchennog neu gynrychiolydd y perchennog yn gwybod pryd i hysbysu ynghylch cynnydd y claf milfeddygol neu i ddychwelyd ar gyfer apwyntiadau dilynol
asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch chi, cydweithwyr, perchnogion neu gynrychiolydd perchennog wrth dderbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol
dewis a rhoi’r gweithdrefnau rheoli heintiau milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr, perchnogion, cynrychiolydd perchennog ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r filfeddygfa
cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
gwneud eich gwaith yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau a phrotocolau'r filfeddygfa i'w dilyn wrth dderbyn a rhyddhau claf milfeddygol
- gweithdrefnau a phrotocolau milfeddygol ar gyfer cynnal cyswllt â'r perchnogion neu gynrychiolydd y perchennog yn ystod arhosiad y claf milfeddygol
- sut i gefnogi perchnogion neu gynrychiolwyr perchnogion a allai fod angen cymorth wrth lenwi dogfennau derbyn a rhyddhau milfeddygol
- y ffyrdd o adnabod y claf milfeddygol a'i eiddo
- y dulliau gwahanol o drin ac atal cleifion milfeddygol
- y gweithdrefnau a'r protocolau milfeddygol ar gyfer derbyn a phrosesu taliadau ar gyfer triniaeth
- sut i gynghori perchnogion neu gynrychiolwyr perchnogion ynghylch arsylwadau ac ôl-ofal gofynnol y claf milfeddygol yn cynnwys sut i weinyddu meddyginiaeth filfeddygol, cyfundrefnau bwydo ac ymarfer corff
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg i chi eich hun, cydweithwyr, perchnogion neu gynrychiolydd perchennog sydd yn gysylltiedig â derbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol
- gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol wrth dderbyn a rhyddhau cleifion milfeddygol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cwblhau a gwirio'r holl gofnodion wrth dderbyn a rhyddhau'r claf milfeddygol
- eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol