Darparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol mewn milfeddygfa
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys darparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol mewn milfeddygfa yn unol â chynllun gofal cleifion milfeddygol a ffurfiwyd ar y cyd â’r llawfeddyg milfeddygol.
Bydd darpariaeth gofal nyrsio cyffredinol yn cynnwys gweinyddu gofal nyrsio, fel darparu maeth a hylifau, gweinyddu therapi hylifol, cadarnhau cyflwr y claf mewnol milfeddygol, monitro eu cynnydd, ymdrin â rhwymau, eli a monitro clwyfau.
Mae’r gwaith sydd wedi ei gynnwys yn y safon hon yn chwarae rhan yn rheoli heintiau ac atal trosglwyddo clefydau heintus.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau cyflwr y claf mewnol milfeddygol a lefel ofynnol y gofal nyrsio cyffredinol i'w ddarparu yn unol â chynllun gofal y cleifion mewnol milfeddygol yn unol â chyfarwyddyd y llawfeddyg milfeddygol
- gwirio a chydosod cyflenwadau o'r offer a'r deunyddiau gofynnol i gyflawni'r gofal nyrsio cyffredinol gofynnol
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth ddarparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol
- dewis a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol wrth ddarparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol
- asesu anghenion trin a lles y claf mewnol milfeddygol a'r ffordd y gellir mynd i'r afael â nhw neu eu heffeithio tra'u bod yn eich gofal
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth ddarparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol
- trin y claf mewnol milfeddygol gan ddefnyddio'r dulliau a'r offer atal gofynnol
- darparu ymyrraeth nyrsio briodol i gynorthwyo'r claf
- monitro cleifion mewnol milfeddygol yn unol â'u cyflyrau clinigol yn unol â chyfarwyddyd gan y llawfeddyg milfeddygol
- gwaredu deunydd dros ben a gwastraff a gynhyrchir gan y filfeddygfa yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cwblhau cofnodion gan ddefnyddio systemau gwybodaeth fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol ac ymarfer milfeddygol
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y broses nyrsio a'r ystod o fodelau nyrsio sydd ar gael
- pam y mae'n bwysig cadarnhau cyflwr y claf mewnol milfeddygol a'r gofal nyrsio cyffredinol gyda'r llawfeddyg milfeddygol
- gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol wrth ddarparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer darparu gofal nyrsio cyffredinol i gleifion mewnol milfeddygol
- sut a phryd y dylid monitro cleifion mewnol milfeddygol a sut gall eu cyflwr effeithio ar y monitro
- y dulliau monitro a ddefnyddir yn ystod mathau gwahanol o ofal nyrsio cyffredinol
- y camau sydd eu hangen wrth nyrsio cleifion mewnol milfeddygol â chyflyrau heintus neu filheintus
- yr offer a'r deunyddiau a ddefnyddir wrth ddarparu mathau gwahanol o ofal nyrsio cyffredinol
- sut i osod ac atal rhywogaethau gwahanol o gleifion mewnol milfeddygol ar gyfer gofal nyrsio cyffredinol gwahanol
- pwysigrwydd monitro cleifion mewnol milfeddygol tra'n darparu gofal nyrsio cyffredinol
- mathau a meintiau maeth a hylif sydd eu hangen gan gleifion mewnol milfeddygol gwahanol
- technegau sylfaenol rhwymo a gweinyddu eli
- sut i asesu a monitro clwyfau a gweinyddu eli
- dangosyddion newid yng nghyflwr cleifion mewnol milfeddygol yn ystod gofal nyrsio cyffredinol a'r rhesymau dros hysbysu llawfeddygon milfeddygol ynghylch newidiadau o'r fath
- sut i waredu deunydd dros ben a gwastraff a gynhyrchir gan y filfeddygfa yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynllun gofal cleifion mewnol milfeddygol: cynllun gofal milfeddygol wedi ei deilwra yn unigol ar gyfer cleifion milfeddygol gwahanol, gallai hyn fod yn gleifion mewnol neu gleifion sydd yn derbyn gofal gartref.
Gofal nyrsio cyffredinol: darparu maeth a hylifau, gweinyddu therapi hylifol, cadarnhau cyflwr y claf mewnol milfeddygol, monitro eu cynnydd, ymdrin â rhwymau, eli a monitro clwyfau.