Dewis a pharatoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis a pharatoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol. Gallai’r llety fod ar gyfer cleifion milfeddygol sy’n cael eu derbyn ar gyfer triniaethau dydd neu ar gyfer cleifion milfeddygol sydd angen eu cadw yn yr ysbyty. Mae’n cynnwys cadarnhau bod y llety wedi ei lanhau a’i baratoi i gyd-fynd â chyflwr y claf milfeddygol. Bydd angen i chi baratoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol sydd o dan oruchwyliaeth neu’n gwella ar ôl triniaethau llawfeddygol a meddygol.
Mae’r gwaith sydd wedi ei gynnwys yn y safon hon yn cyfrannu at reoli heintiau ac atal trosglwyddo clefydau heintus i ddeiliaid y llety yn y dyfodol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
dewis llety fel sy’n ofynnol ar gyfer y claf milfeddygol a’u gofynion clinigol
asesu’r risg posibl i’ch iechyd a’ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth baratoi’r llety ar gyfer cleifion milfeddygol
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol ar waith wrth baratoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol
- gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth baratoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol
- cynnal eich hylendid personol yn ymwneud â rheoli heintiau a defnyddio PPE
paratoi llety gan ddefnyddio’r technegau glanhau a diheintio yn unol â’r anghenion clinigol a gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol
sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn y llety yn addas ar gyfer cyflwr clinigol a rhywogaeth y claf milfeddygol
- cadarnhau bod y llety milfeddygol mewn cyflwr da i osgoi risg o anaf neu’r claf milfeddygol yn dianc
- darparu’r gwely a’r deunydd perthnasol ar gyfer y claf milfeddygol a’i gyflwr clinigol
- sicrhau bod y llety wedi ei labelu gyda manylion y claf a bod cofnodion wedi eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cyfyngu mynediad i lety’r claf milfeddygol yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion ymarfer milfeddygol ar gyfer safon llety'r claf milfeddygol
- y math o lety sy'n ofynnol gan gleifion milfeddygol gwahanol a'u gofynion clinigol
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer dewis a pharatoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol
- gweithdrefnau gofynnol rheoli heintiau ymarfer milfeddygol ar gyfer dewis a pharatoi llety ar gyfer cleifion milfeddygol
- y dulliau a'r deunydd glanhau perthnasol ar gyfer llety gwahanol, y cleifion milfeddygol a'r mathau o achosion
- yr amodau amgylcheddol perthnasol ar gyfer cleifion milfeddygol gwahanol a'r ffordd y gellir eu haddasu, yn cynnwys addasu'r golau, tymheredd, awyru, lleithder a sŵn
- y gofynion cyfreithiol ac ymarfer milfeddygol perthnasol ar gyfer trin a storio sylweddau a allai fod yn niweidiol
- sut i waredu deunydd gwastraff a gynhyrchir gan y filfeddygfa yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer milfeddygol perthnasol
- gweithdrefn y filfeddygfa ar gyfer atgyweirio unrhyw niwed i lety'r cleifion milfeddygol
- sut i gynnal a chadw'r llety milfeddygol yn unol â safon ofynnol ymarfer milfeddygol
- y mathau o wely y dylid ei ddarparu ar gyfer cleifion milfeddygol ac amodau chyflyrau clinigol gwahanol
- pwy sydd ag awdurdod i gael mynediad i lety cleifion milfeddygol
- eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol.
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes