Paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig, yn cynnwys cymhwyso anatomeg a ffisioleg
URN: LANRVN4
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig, yn cynnwys cymhwyso anatomeg a ffisioleg. Bydd hyn yn cynnwys cael y wybodaeth angenrheidiol am y claf, paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer eu harchwilio, casglu samplau, therapi hylifol, meddyginiaeth, gosod eli a rhwymau neu weithdrefnau diagnostig.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth angenrheidiol am gleifion milfeddygol ar gyfer y gweithdrefnau meddygol neu'r archwiliadau diagnostig
- nodi'r gweithdrefnau meddygol neu'r archwiliadau diagnostig i gael eu cyflawni a'r gofynion ar gyfer paratoi'r claf milfeddygol
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a'ch cydweithwyr wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- dewis a rhoi'r gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- gosod ac atal y claf milfeddygol i leihau'r risg o anaf i'r claf milfeddygol neu'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
- paratoi'r claf milfeddygol ar gyfer y gweithdrefnau meddygol neu'r archwiliadau diagnostig
- adnabod nodweddion a phrosesau anatomegol a ffisiolegol arferol y claf milfeddygol
- adnabod nodweddion a phrosesau anatomegol a ffisiolegol annormal, a dull cyfadferol y claf milfeddygol
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y wybodaeth sy'n ofynnol wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer paratoi'r cleifion meddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg sydd yn gysylltiedig â pharatoi cleifion meddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- gweithdrefnau ymarfer milfeddygol gofynnol ar gyfer rheoli heintiau wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- sut i baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
- rheoli anifeiliaid, yn cynnwys trin ac atal, ar gyfer mathau gwahanol o weithdrefnau meddygol, archwiliadau diagnostig ac ymddygiad anifeiliaid
- sut i baratoi'r cleifion milfeddygol i osgoi achosi pryder diangen
- sut i osod y cleifion milfeddygol fel y bo angen yn unol â'r gweithdrefnau meddygol ac ar gyfer yr archwiliadau diagnostig i gael eu gwneud
- yr arwyddion a'r camau i'w cymryd, pan fydd claf milfeddygol wedi ei anafu, neu'n dangos arwyddion o ddirywiad corfforol neu glinigol
- lleoliad, strwythur, swyddogaeth a therminoleg gysylltiedig systemau corff anatomaidd y claf milfeddygol
- lleoliad, strwythur, swyddogaeth a therminoleg gysylltiedig systemau ffisiolegol corff y claf milfeddygol
- anatomeg a ffisioleg annormal, prosesau clefydau a dull cyfadferol y claf milfeddygol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN6
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
paratoi; gofal anifeiliaid