Trin a rheoli cleifion milfeddygol mewn lleoliad milfeddygol

URN: LANRVN3
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â thrin a rheoli cleifion milfeddygol mewn lleoliad milfeddygol er mwyn gallu darparu gofal, yn ogystal ag archwiliadau, gweithdrefnau clinigol a thriniaeth a lleihau’r risg i’r claf milfeddygol, chi eich hun ac eraill.  Bydd hyn yn cynnwys trin a rheoli’r claf milfeddygol yn y ffordd ofynnol gan ddefnyddio dulliau sy’n berthnasol i’r rhywogaeth.

Byddwch yn gallu asesu’r risg cysylltiedig, nodi dulliau atal, trin a rheoli priodol ar gyfer y claf milfeddygol perthnasol a’i ofynion, ac yn gallu defnyddio’r dulliau hyn yn effeithiol ac yn ddiogel er mwyn hybu lles y claf milfeddygol bob amser. Gallai’r mathau o anifeiliaid gynnwys rhai domestig, ceffylaidd, estron a gwyllt.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch galluoedd a’ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. asesu’r gofynion ar gyfer trin a rheoli’r claf milfeddygol 2. dewis y dull gofynnol o drin a rheoli fel sy’n ofynnol ar gyfer rhywogaeth y claf milfeddygol a’i ofynion milfeddygol 3. dewis y cymhorthion trin a rheoli gofynnol 4. dewis a defnyddio’r offer amddiffynnol personol (PPE) cywir 5. asesu’r risg posibl i iechyd a diogelwch o ran eich hun a chydweithwyr wrth drin a rheoli cleifion milfeddygol mewn lleoliad milfeddygol 6. dewis a rhoi’r gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio 7. trafod a chytuno ar ofynion trin y claf milfeddygol, gyda’r cleient, a chydweithwyr sydd yn gysylltiedig â thrin a rheoli’r claf milfeddygol 8. mynd at y claf milfeddygol fel y bo angen i leihau unrhyw bryder ac ofn corfforol 9. trin a rheoli’r claf milfeddygol gan ddefnyddio’r dull y cytunwyd arno 10. defnyddio’r cymorth perthnasol a ddewiswyd i drin a rheoli’r claf milfeddygol 11. addasu’r gwaith o drin a rheoli’r claf milfeddygol mewn ymateb i’w adweithiau a’i ymddygiad corfforol 12. cwblhau’r cofnodion sy’n ofynnol gan y filfeddygfa 13. gwneud eich gwaith yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion rheoli risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol 14. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
 
 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i asesu’r gofynion ar gyfer trin a rheoli cleifion milfeddygol mewn lleoliad milfeddygol

  2. yr ystod o ddulliau ar gyfer trin a rheoli rhywogaethau gwahanol o gleifion milfeddygol

  3. sut i ddewis a defnyddio’r cymhorthion gofynnol ar gyfer trin a rheoli cleifion milfeddygol
  4. y mathau o offer personol ac amddiffynnol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
  5. sut i asesu’r risg i chi eich hun, i anifeiliaid, cleientiaid a chydweithwyr wrth drin a rheoli rhywogaethau gwahanol
  6. gweithdrefnau rheoli heintiau gofynnol ymarfer milfeddygol mewn milfeddygfa
  7. sut i drafod a chynghori cydweithwyr a chleientiaid a allai gynorthwyo gyda gweithgareddau milfeddygol am ddulliau trin
  8. y rhagofalon i’w cymryd i atal anafiadau, straen neu gyflyrau presennol yn gwaethygu i’r claf milfeddygol
  9. effaith eich rhyngweithio gyda’r claf milfeddygol a sut i leihau unrhyw effeithiau niweidiol ar ei ymddygiad
  10. sut i adnabod ac asesu arwyddion pryderon corfforol neu feddygol y claf milfeddygol a deall beth allai eu hymatebion fod
  11. sut i adnabod sefyllfaoedd neu gyflyrau lle nad yw’n addas i berson fynd at, trin neu reoli claf milfeddygol heb gymorth a chanlyniadau posibl gwneud hynny
  12. sut i addasu’r dulliau trin a rheoli a ddefnyddir fel y bo angen ar gleifion milfeddygol
  13. sut i adnabod effaith eich ymddygiad eich hun ar y claf milfeddygol
  14. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
  15. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  16. eich cyfrifoldeb yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN5

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

trin a rheoli; gofal anifeiliaid