Cynorthwyo staff milfeddygol cymwys yn ystod triniaethau meddygol ac archwiliadau diagnostig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo staff milfeddygol cymwys yn ystod triniaethau meddygol ac archwiliadau diagnostig. Gallai hyn gynnwys cynorthwyo'r staff milfeddygol trwy fonitro'r claf milfeddygol, darparu offer a deunyddiau, a chofnodi yn y dogfennau cywir.
Gallai'r mathau o driniaethau meddygol ac archwiliadau diagnostig milfeddygol gynnwys, archwiliad claf milfeddygol, casglu samplau, therapi hylifol, cyflenwi meddyginiaeth wedi ei weinyddu, gosod eli a rhwymau neu gynorthwyo gyda gweithdrefnau diagnostig.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal Ategol a myfyrwyr nyrsio milfeddygol sydd wedi ymrestru.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sefydlu o’r staff milfeddygol cymwys y cymorth sydd ei angen yn ystod triniaethau meddygol ac archwiliadau diagnostig
dewis a gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth gynorthwyo’r staff milfeddygol cymwys yn ystod triniaethau meddygol ac archwiliadau diagnostig
defnyddio’r gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol wrth gynorthwyo staff milfeddygol yn ystod gweithdrefnau meddygol ac archwiliadau diagnostig
darparu offer a deunyddiau yn unol â chyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys
darparu cymorth yn unol â gofynion y staff milfeddygol cymwys a chyflwr y claf milfeddygol
dilyn anghenion trin a lles y claf milfeddygol a hysbysu’r staff milfeddygol cymwys fel y bo angen
sicrhau bod mynediad at y claf milfeddygol er mwyn galluogi’r driniaeth filfeddygol neu’r archwiliad diagnostig i gael ei gyflawni
monitro’r claf milfeddygol yn ystod y driniaeth feddygol neu’r archwiliad diagnostig
cynorthwyo’r gwaith o gadw cofnodion o’r driniaeth feddygol neu’r archwiliad diagnostig yn gywir
cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol ar ôl cwblhau’r driniaeth feddygol neu’r archwiliad diagnostig, yn unol â chyfarwyddyd staff milfeddygol cymwys
cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
gwneud eich gwaith yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand: