Gweithio yn unol â safonau ymarfer nyrsio milfeddygol proffesiynol
URN: LANRVN25
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gofynion gweithio yn unol â safonau ymarfer nyrsio proffesiynol fel nyrs filfeddygol a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â bod yn aelod o broffesiwn wedi ei reoleiddio. Mae’n cynnwys cynnal safonau proffesiynol a moeseg mewn ymarfer milfeddygol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod, dadansoddi a gwerthuso materion sydd yn gysylltiedig â bod yn nyrs filfeddygol broffesiynol a deall pwysigrwydd eich gweithredoedd
- gweithio yn unol ag ymarfer nyrsio milfeddygol proffesiynol trwy ddilyn y deddfwriaethau perthnasol
- gweithio o fewn gofynion codau ymarfer Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS)
- asesu gofynion deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ar eich gwaith
- defnyddio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth i lywio ymyriadau nyrsio
- cymryd cyfrifoldeb am eich penderfyniadau fel rhan o'ch rôl broffesiynol
- adlewyrchu ar eich perfformiad eich hun fel nyrs filfeddygol wrth weithio yn unol â'r safon ymarfer milfeddygol gofynnol
- cynllunio, cofnodi a gwerthuso Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn milfeddygfa
- cynorthwyo'r broses o gael cydsyniad gwybodus mewn milfeddygfa
- cynorthwyo cydweithwyr a chleientiaid sydd yn dymuno mynegi pryderon am ymddygiad amhroffesiynol mewn milfeddygfa
- nodi materion moesegol yn y filfeddygfa a chymryd y camau gofynnol
- cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau moesegol yn y filfeddygfa
- cynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau moesegol yn y filfeddygfa yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- nodi ffyrdd o leihau (neu fireinio) effaith penderfyniad moesegol
- adlewyrchu ar y broses o wneud penderfyniadau moesegol yn y filfeddygfa
- cynorthwyo cydweithwyr a chleientiaid sydd yn dymuno mynegi pryderon am fater moesegol mewn milfeddygfa
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sydd yn gysylltiedig â bod yn nyrs filfeddygol broffesiynol ac arwyddocâd rheoleiddio wrth weithio yn y swydd hon
- y deddfwriaethau perthnasol mewn perthynas â nyrsys milfeddygol a safonau ymarfer milfeddygol
- Is-ddeddfau rheoliadol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS) mewn perthynas â nyrsys milfeddygol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gofynion codau ymarfer Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS) ar gyfer Nyrsys Milfeddygol
- system ddisgyblu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS) ar gyfer nyrsys milfeddygol
- gofynion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS) ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol mewn ymarfer milfeddygol
- sut i nodi a gwerthuso tystiolaeth a ddefnyddir i lywio safonau ymarfer nyrsio milfeddygol
- y gofyniad am archwiliadau clinigol
- rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol perthynol i'r diwydiant milfeddygol
- rôl elusennau lles anifeiliaid a sefydliadau eraill anifeiliaid
- y system gyfreithiol berthnasol, yn cynnwys Cyfraith Sifil a Throseddol (Noder bod gwahaniaethau yng nghyfraith yr Alban)
- cysyniadau "dyletswydd gofal" ac "esgeulustod" a'u cymhwysiad i safonau ymarfer nyrsio milfeddygol
- pwysigrwydd cadw cyfrinachedd cleientiaid a chleifion a gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol
- sut i gynorthwyo cydweithwyr a chleientiaid a allai ddymuno mynegi pryderon am ymddygiad amhroffesiynol mewn milfeddygfa
- pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus a sut i werthuso gweithdrefnau sefydliadol a systemau a weithredir i hwyluso hyn
- sut i adnabod materion moesegol yn y filfeddygfa
- sut i gymhwyso damcaniaethau ac egwyddorion i'r materion moesegol a nodir
- y gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â'r broses o wneud penderfyniadau moesegol yn y filfeddygfa
- rôl pob aelod o dîm y filfeddygfa yn y broses o wneud penderfyniadau moesegol
- sut i leihau effaith penderfyniad moesegol mewn milfeddygfa
- sut i wella'r broses o wneud penderfyniadau moesegol yn y filfeddygfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN31
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
rheoleiddio; nyrs milfeddygol