Cyflenwi meddyginiaethau milfeddygol
URN: LANRVN23
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflenwi meddyginiaethau milfeddygol i fodloni gofynion y claf milfeddygol ac ymarfer milfeddygol.
Bydd hyn yn cynnwys cyfrifo'r dogn cywir a gweinyddu'r feddyginiaeth gyda chyfarwyddyd a chyngor i'r perchennog/cynrychiolydd y perchennog.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer Person â Chymhwyster Addas (SQP). Mae categorïau gwahanol cofrestriad SQP ar gael ac maent yn effeithio ar y mathau o anifeiliaid y gellir rhoi meddyginiaethau iddynt. Mae'r modiwlau sydd ar gael fel a ganlyn:
- FAM – Anifeiliaid fferm (sy'n cynhyrchu bwyd)
- EQM – Ceffylaidd
- CAM – Anifeiliaid cydymaith.
Gall SQP feddu ar unrhyw gyfuniad o'r rhain.
Gall SQP ragnodi a/neu gyflenwi categorïau penodol o gynnyrch o fewn cwmpas eu cofrestriad, o fewn y dosbarthiadau canlynol:
- POM-VPS (Meddyginiaeth Bresgripsiwn yn Unig - Milfeddyg, Fferyllydd, SQP)
- NFA-VPS (Anifail Nad yw'n Fwyd - Milfeddyg, Fferyllydd, SQP)
- AVM-GSL (Meddyginiaeth wedi ei Hawdurdodi gan Filfeddyg – Rhestr Werthu Gyffredinol)
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gyflenwi meddyginiaethau milfeddygol
- cael gwybodaeth gan y perchennog/cynrychiolydd y perchennog i alluogi'r dewis gofynnol o feddyginiaeth filfeddygol i gael ei wneud
- dewis meddyginiaeth filfeddygol i fodloni anghenion gofynnol y claf milfeddygol
- cyflenwi meddyginiaeth filfeddygol yn unol â phresgripsiwn ysgrifenedig gan Berson Cymwys Cofrestredig (RQP) arall
- cyfrifo a gweinyddu'r maint gofynnol o feddyginiaeth filfeddygol, gan roi cyngor i gleientiaid a chwsmeriaid ar ddognau ac amlder gweinyddu
- darparu labeli yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau'r filfeddygfa
- cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â darparu meddyginiaeth filfeddygol
- cynghori'r perchennog/cynrychiolydd y perchennog ynghylch llwybr cywir gweinyddu, yn ogystal â thrin, storio a gwaredu meddyginiaeth filfeddygol fel y mae'n ofynnol
- storio a gwaredu meddyginiaeth filfeddygol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cwblhau a storio cofnodion o gyflenwad y feddyginiaeth filfeddygol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau'r filfeddygfa
- cyfeirio perchennog/cynrychiolydd perchennog at lawfeddyg milfeddygol os oes unrhyw amheuaeth ynghylch y diagnosis neu os oes angen Meddyginiaeth Bresgripsiwn yn Unig (POM)
- gwneud eich gwaith yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gyflenwi meddyginiaethau milfeddygol
- y wybodaeth sy'n ofynnol i alluogi'r dewis priodol o feddyginiaeth filfeddygol i gael ei wneud
- sut i gyfrifo dognau, meintiau ac amlder gweinyddu meddyginiaethau milfeddygol
- sut i ddehongli a dilysu presgripsiwn meddyginiaeth filfeddygol ysgrifenedig
- pwysigrwydd cadarnhau'r dogn a ragnodwyd a goblygiadau peidio â gwneud hynny wrth gyflenwi meddyginiaeth filfeddygol
- cyflwyniadau gwahanol meddyginiaeth filfeddygol, yn cynnwys defnyddio enwau perchnogol a generig
- y categorïau cyfreithiol perthnasol ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol a phwy all eu gweinyddu
- y gofynion cyfreithiol ac ymarfer milfeddygol perthnasol ar gyfer labelu meddyginiaeth filfeddygol
- y dosbarthiadau gwahanol ar gyfer meddyginiaethau a weinyddir gan fferyllfa filfeddygol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cadw cofnodion ymarfer milfeddygol, yn cynnwys cyffuriau wedi eu rheoli
- darparu a chyflenwi presgripsiwn milfeddygol i'w ddefnyddio gan Berson Cymwys Cofrestredig (RQP) arall
- y gweithdrefnau rheoli fferyllfa filfeddygol mewn perthynas â mynediad gan bersonel awdurdodedig, rheoli, storio a gwaredu stoc
- nodi'r gwrtharwyddion, adweithiau i gyffuriau, gorddosio a sut i hysbysu ynghylch amheuaeth o adweithiau niweidiol mewn cleifion milfeddygol
- pryd i gyfeirio'r perchennog/cynrychiolydd y perchennog at lawfeddyg milfeddygol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
RQP – Person Cymwys Cofrestredig – llawfeddyg milfeddygol, fferyllydd neu Berson â Chymhwyster Addas (SQP).
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN29
Galwedigaethau Perthnasol
Person â Chymhwyster Addas
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
gofal anifeiliaid; fferyllfa; person cymwys