Darparu gofal nyrsio ar gyfer cleifion milfeddygol mewn adferiad
URN: LANRVN22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gofal nyrsio ar gyfer cleifion milfeddygol sydd mewn adferiad. Bydd yr anifeiliaid yn gwella ar ôl cael triniaethau bach a mawr, anesthesia neu lonyddu. Bydd hyn yn cynnwys monitro’r claf milfeddygol, rheoli heintiau a chwblhau cofnodion.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth ddarparu gofal nyrsio ar gyfer cleifion milfeddygol sydd mewn adferiad
2. dewis a rhoi’r gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
3. gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth ofalu am glaf milfeddygol sydd mewn adferiad
4. rhoi’r claf milfeddygol mewn amgylchedd a safle adferiad sydd yn addas ar gyfer ei rywogaeth, brîd a’r driniaeth sydd wedi cael ei chynnal
5. monitro adferiad y claf milfeddygol a hysbysu’r llawfeddyg milfeddygol neu aelod o’r tîm milfeddygol os oes unrhyw bryderon
6. adnabod arwyddion poen corfforol neu drallod ac asesu gan ddefnyddio systemau sgôr poen cydnabyddedig
7. defnyddio’r ymyriadau a’r hylifau gofynnol yn unol â chais y llawfeddyg milfeddygol neu aelod o’r tîm milfeddygol i leihau poen corfforol a thrallod
8. defnyddio’r dulliau gofynnol i atal y claf milfeddygol rhag cael mynediad at glwyfau, eli a chathetrau
9. rhoi gwybodaeth i gleientiaid am gyflwr cleifion milfeddygol
10. cofnodi gwybodaeth fonitro sy’n ofynnol gan y llawfeddyg milfeddygol neu aelod o’r tîm milfeddygol
11. cadw cofnodion nyrsio a gweithdrefnau a chadw’r rhain yn hygyrch bob amser, yn cynnwys cofnodion anesthetig neu lonyddu a gwybodaeth am adferiad
12. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
13. gwneud eich gwaith yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch wrth ddarparu gofal nyrsio ar gyfer cleifion milfeddygol sydd mewn adferiad
2. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol sy’n ofynnol ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
3. y dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth ddarparu gofal nyrsio ar gyfer anifeiliaid sydd mewn adferiad
4. y safle adferiad addas ar gyfer rhywogaethau a bridiau gwahanol a’r driniaeth sydd wedi cael ei chynnal
5. sut i fonitro cleifion milfeddygol a’r arwyddion pryder ar gyfer mathau gwahanol o gleifion milfeddygol a’r driniaeth a gynhaliwyd
6. sut i adnabod a lleihau poen corfforol a thrallod yn ystod adferiad gan ddefnyddio systemau sgôr poen perthnasol
7. y dulliau y gellir eu defnyddio i atal anifeiliaid rhag cael mynediad at glwyfau, eli a chathetrau
8. pam y mae’n bwysig darparu gwybodaeth fonitro i’r llawfeddyg milfeddygol ac aelodau eraill o dîm y practis
9. sut a phryd i roi gwybodaeth i gleientiaid am gyflwr cleifion milfeddygol
10. pam y mae’n bwysig cofnodi triniaethau milfeddygol yn gywir a phwy ddylai gael mynediad at y rhain
11. rôl broffesiynol a chyfrifoldebau aelodau amrywiol o’r tîm milfeddygol sydd yn gysylltiedig â gofal cleifion milfeddygol mewn adferiad
12. eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a llesiant anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol.
13. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
14. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN28
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
adferiad; gofal nyrsio; anesthesia; llonyddu