Cynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol. Mae hefyd yn cynnwys monitro anesthesia neu lonyddu o dan oruchwyliaeth yn ystod triniaethau milfeddygol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
cadarnhau’r gofynion ar gyfer gweinyddu anesthetig neu lonyddu ar gyfer y claf milfeddygol gyda’r llawfeddyg milfeddygol
- dewis a gweithredu’r gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
- gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth gynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer anifeiliaid
- cynorthwyo a chynnal triniaethau anesthetig neu lonyddu yn unol â gofynion y llawfeddyg milfeddygol a chyflwr y claf milfeddygol
- gosod tiwb mewn cleifion milfeddygol yn ôl y gofyn
- cynnal anesthesia neu lonyddu o dan oruchwyliaeth yn ystod cyfnodau gofynnol y driniaeth filfeddygol
- defnyddio offer, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) anesthetig neu lonyddu yn ôl gofynion y llawfeddyg milfeddygol
- monitro’r cleifion milfeddygol yn cynnwys eu harwyddion hanfodol a thynnu sylw’r llawfeddyg milfeddygol at unrhyw arwydd o newid neu bryderon
- cadw cofnodion ar y defnydd o driniaethau anesthetig neu lonyddu a chadw’r rhain yn hygyrch fel bo angen
- newid y cyfryngau anesthetig yn ôl cyfarwyddyd y llawfeddyg milfeddygol
- cynorthwyo’r gwaith o awyru cleifion milfeddygol pan fo angen
- datgysylltu’r claf milfeddygol o’r offer, deunyddiau a’r cyfryngau mewnanadlu (IA) anesthetig neu lonyddu yn ôl cyfarwyddyd y llawfeddyg milfeddygol
- tynnu tiwbiau o’r anifail pan fo angen
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
pam y mae’n bwysig cadarnhau bod y gweithdrefnau anesthetig cywir yn cael eu defnyddio mewn milfeddygfeydd
y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
y dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer gweinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
sut i gynorthwyo’r gwaith o weinyddu gweithdrefnau anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol i gyflawni gofynion gwahanol
y cyfnodau ar gyfer gweinyddu anesthesia neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
ymateb ffisiolegol cleifion milfeddygol i anesthesia neu lonyddu
y math o gymorth sy’n ofynnol gan lawfeddygon milfeddygol a pham y mae’n bwysig ymateb i geisiadau
y math o offer, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) anesthetig neu lonyddu sy’n ofynnol gan lawfeddyg milfeddygol yn ystod cyfnodau gwahanol o’r broses
y math o wybodaeth fonitro sy’n ofynnol gan lawfeddyg milfeddygol neu aelodau o’r tîm milfeddygol a pham y mae’n bwysig ei darparu
sut i fonitro cleifion milfeddygol yn ystod yr anesthesia neu lonyddu ac arwyddion problemau neu newidiadau yng nghyflwr y claf milfeddygol
pam y mae’n bwysig cofnodi gweithdrefnau a chanfyddiadau anesthetig neu lonyddu a phwy ddylai gael mynediad atynt
pam y mae’n bwysig bod anesthesia neu lonyddu’n cael ei addasu i gyflwr y claf milfeddygol yn ystod llawdriniaeth
y gweithdrefnau gofynnol ar gyfer datgysylltu cleifion milfeddygol o offer, deunyddiau neu gyfryngau mewnanadlu (IA) anesthetig neu lonyddu
y gweithdrefnau gosod a thynnu tiwbiau ar gyfer cleifion milfeddygol
egwyddorion Awyriad Pwysedd Cadarnhaol Ysbeidiol (IPPV) a’r offer a ddefnyddir ar gyfer hyn
cynnwys a swyddogaeth blwch argyfwng anesthetig
gofynion cyfryngau ac offer anesthesia
rolau a chyfrifoldebau proffesiynol aelodau o’r tîm milfeddygol sydd yn gysylltiedig â chynorthwyo’r gwaith o weinyddu a chynnal anesthetig neu lonyddu ar gyfer cleifion milfeddygol
eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol