Paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer anesthesia neu lonyddu

URN: LANRVN20
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cleifion milfeddygol ar gyfer anesthesia neu lonyddu. Mae’n cynnwys adnabod y cleifion milfeddygol cywir ar gyfer llonyddu neu anesthesia, gan addasu’r amodau amgylcheddol a chynnal gwiriadau cyn anesthetig a chyn llonyddu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth baratoi anesthesia neu lonyddu
  2. cadarnhau prawf hunaniaeth y claf milfeddygol, y paratoadau sy'n cael eu gwneud a'r driniaeth anesthetig neu lonyddu sy'n cael ei gweinyddu yn erbyn y wybodaeth sydd ar gael
  3. addasu'r amodau amgylcheddol i gyd-fynd ag anghenion y claf milfeddygol
  4. dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  5. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth baratoi anesthesia neu lonyddu
  6. sefydlu ac atal y claf milfeddygol gan ddefnyddio'r offer a'r dulliau trin gofynnol
  7. cadw'r claf milfeddygol yn dawel a lleihau anesmwythdra corfforol yn yr amgylched clinigol
  8. cyflawni archwiliadau a thriniaethau cyn anesthetig neu cyn llonyddu ar y claf milfeddygol, cyn y feddyginiaeth cyn llawdriniaeth ac ysgogi neu lonyddu
  9. monitro'r claf milfeddygol wrth baratoi anesthesia a llonyddu
  10. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  11. gwneud eich gwaith yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer anesthesia neu lonyddu
  2. y mathau o wybodaeth a ddefnyddir i adnabod y claf milfeddygol a'r triniaethau anesthetig neu lonyddu a ddefnyddir
  3. yr addasiadau i amodau amgylcheddol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o gleifion milfeddygol
  4. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  5. y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer gweithio yn yr ystafell llawdriniaethau milfeddygol
  6. sut i sefydlu ac atal y claf milfeddygol ar gyfer y driniaeth anesthetig neu lonyddu
  7. pwysigrwydd cadw cleifion milfeddygol yn dawel mewn amgylcheddau clinigol
  8. y gwiriadau cyn anesthetig neu cyn llonyddu y dylid eu cynnal ar gleifion milfeddygol a'r mathau gwahanol o feddyginiaeth cyn llawdriniaeth ac ysgogi neu lonyddu
  9. sut i fonitro cleifion milfeddygol cyn llonyddu neu anesthesia
  10. yr egwyddorion meddygol a phwyntiau allweddol rheoliadau a chanllawiau perthnasol iechyd a diogelwch
  11. rolau a chyfrifoldebau proffesiynol aelodau'r tîm milfeddygol sydd yn gysylltiedig â pharatoi cleifion milfeddygol ar gyfer llonyddu neu anesthesia
  12. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol.
  13. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
  14. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN26

Galwedigaethau Perthnasol

myfyriwr nyrsio milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

anesthetig; offer; gofal anifeiliaid; milfeddygol