Rhoi cymorth a chyngor i gleientiaid yn ymwneud â gofal eu hanifail
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rhoi cymorth a chyngor i gleientiaid yn ymwneud â gofal eu hanifail. Mae’n cynnwys cefnogi cleientiaid wrth ddarparu gwasanaethau milfeddygol, cynghori cleientiaid ar ofal cyffredinol anifeiliaid, gan ddangos i gleientiaid sut i ofalu am anifeiliaid a darparu deunyddiau milfeddygol i gleientiaid.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gwybodaeth i gleientiaid am gyflwr eu hanifail yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
cynnig y cymorth corfforol ac emosiynol gofynnol i gefnogi’r cleient yn ystod sefyllfaoedd anodd
- cynnig cyngor ac argymhellion perthnasol i gleientiaid yn ymwneud â gofal anifail(anifeiliaid) yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- hysbysu’r cleient am y gwasanaethau milfeddygol sydd ar gael i fodloni eu hanghenion
- esbonio canlyniadau peidio â dilyn y cyngor a roddir ar ofal yr anifail i’r cleient
- gwirio dealltwriaeth y cleient a rhoi cymorth a chyngor ychwanegol lle bo angen
- trosglwyddo’r cleient i’r person perthnasol neu filfeddygfa neu bractis allanol pan fo angen cyngor arbenigol
- dangos y dulliau cywir o roi gofal i’r anifail i’r cleient
- cadarnhau bod y cleient yn gallu ailadrodd y broses o arddangos gofal tra bod cymorth uniongyrchol ar gael
- hysbysu’r cleient ynghylch dulliau ar gyfer cysylltu â’r filfeddygfa os oes angen cymorth yn y dyfodol
- esbonio’r goblygiadau iechyd a diogelwch perthnasol i’r cleient
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
ymarfer polisi yn ymwneud â rhoi gwybodaeth i gleientiaid a mynediad at eu hanifeiliaid
y mathau o gymorth a chyngor i’w rhoi i gleientiaid yn ymwneud â gofal eu hanifail
y problemau a allai ddigwydd wrth ddarparu gwasanaethau milfeddygol
y mathau o gymorth corfforol ac emosiynol i’w gynnig i gleientiaid
pam y mae’n bwysig bod cleientiaid yn nodi pryd y mae angen cymorth neu gyngor arnynt
sut i sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth sy’n cael eu rhoi i gleientiaid yn berthnasol
pam y mae’n bwysig rhoi’r cyngor a nodir gan filfeddygfeydd
pa fath o argymhellion y gellir eu rhoi i gleientiaid â gofynion gwahanol a phryd y dylid eu trosglwyddo i filfeddygfeydd neu bractisau allanol am gyngor arbenigol
y gwasanaethau milfeddygol sydd ar gael a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan gleientiaid gwahanol
sut i esbonio canlyniadau peidio â dilyn y cyngor a roddir ar ofal eu hanifail i gleientiaid
y mathau o anawsterau y gallai cleientiaid eu cael yn deall cyngor
yr angen i esbonio sut dylid trin anifeiliaid a’r rheswm dros gynghori’r triniaethau
sut i gynghori’r cleient ynghylch yr amodau amgylcheddol gofynnol ac arsylwadau ar ymddygiad anifeiliaid
effeithiau mathau gwahanol o ofal ar fathau gwahanol o gyflwr ac anifail
y dulliau cywir o ofalu am anifeiliaid a’r ffordd y gellir arddangos y rhain i’r cleientiaid
sut i wirio a yw cleientiaid wedi deall y gofal a ddangoswyd
pam y mae’n bwysig bod cleientiaid yn atgynhyrchu’r hyn a ddangoswyd tra bod rhywun yn gallu rhoi cyngor pellach
y dulliau o gysylltu â’r filfeddygfa
y dulliau cywir o waredu deunydd gwastraff a meddyginiaeth a gynhyrchir gan filfeddygfeydd
sut i gydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol