Cynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol i baratoi deunyddiau llonyddu ac anesthesia ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol

URN: LANRVN19
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol i baratoi deunyddiau ac offer llonyddu ac anesthesia ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth baratoi deunyddiau ac offer ar gyfer llonyddu ac anesthesia

  2. gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth baratoi deunyddiau ac offer llonyddu ac anesthesia

  3. gweithio gyda’r llawfeddyg milfeddygol i gyflawni a chwblhau taflen diogelwch cleifion milfeddygol gydnabyddedig
  4. cadarnhau gyda’r llawfeddyg milfeddygol yr offer llonyddu neu anesthetig, offer monitro, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) ar gyfer y llawdriniaeth filfeddygol
  5. dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio#
  6. paratoi offer llonyddu neu anesthetig, offer monitro, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) yn unol â’r gweithdrefnau anesthetig a milfeddygol gofynnol
  7. cyfrifo’r anesthetig sy’n ofynnol ar gyfer y claf milfeddygol a chadarnhau eich canlyniadau gyda’r llawfeddyg milfeddygol
  8. gosod yr holl offer, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) yn y lleoliad cywir i gefnogi’r llawdriniaeth filfeddygol
  9. dewis y cylched anesthetig gofynnol a chyfrifo cyfradd y llif yn ôl yr angen
  10. archwilio a chynnal a chadw offer llonyddu ac anesthetig yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd, amserlenni a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
  11. cydymffurfio â’r rheoliadau a’r canllawiau perthnasol yn ymwneud â defnyddio, gwerthu a gwaredu offer anesthetig, deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA) bob amser
  12. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr sydd yn gysylltiedig â pharatoi deunyddiau ac offer ar gyfer llonyddu ac anesthesia
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer cynorthwyo i baratoi deunyddiau ac offer llonyddu ac anesthesia
  3. y wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cwblhau taflen ddiogelwch y claf milfeddygol a'r gweithdrefnau anesthetig i'w defnyddio
  4. yr offer, y deunyddiau a'r cyfryngau llonyddu neu anesthetig a ddefnyddir ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol a pham y mae'n rhaid i chi gael arweiniad gan y llawfeddyg milfeddygol am hyn
  5. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy'n berthnasol ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  6. sut i baratoi offer a deunyddiau llonyddu a chyfryngau mewnanadlu (IA)
  7. ble dylid gosod offer, deunyddiau a chyfryngau llonyddu a mewnanadlu (IA) ar gyfer anesthetig a llawdriniaethau milfeddygol
  8. y rheoliadau a'r canllawiau perthnasol yn ymwneud â defnyddio offer, deunyddiau a chyfryngau llonyddu a mewnanadlu (IA)
  9. sut i drin a defnyddio deunyddiau a chyfryngau mewnanadlu (IA), cynnal systemau turio a gwaredu gwastraff yn ddiogel
  10. y namau sydd yn digwydd gydag offer a deunyddiau llonyddu neu anesthetig sy'n effeithio ar eu gweithrediad, dibynadwyedd, diogelwch ac effeithiolrwydd a'r camau cywir i'w cymryd os bydd y rhain yn digwydd
  11. sut i archwilio a chynnal a chadw offer llonyddu ac anesthesia yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd, amserlenni a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
  12. egwyddorion meddygol a phwyntiau allweddol y rheoliadau a'r canllawiau iechyd a diogelwch perthnasol
  13. rolau a chyfrifoldebau proffesiynol aelodau'r tîm milfeddygol sydd yn gysylltiedig â pharatoi deunyddiau ac offer llonyddu ac anesthesia
  14. eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â'r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  15. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig 
  16. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN25

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol, myfyriwr nyrsio milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

llonyddu; anesthesia; gofal anifeiliaid