Cynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol fel nyrs wedi sgwrio i gyflawni llawdriniaethau ar gleifion milfeddygol

URN: LANRVN18
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol i gyflawni llawdriniaethau ar gleifion milfeddygol. Mae’n cynnwys rhoi cymorth tra’u bod yn yr ystafell lawdriniaethau ar ôl sgwrio a hefyd ymdrin ag offer a deunyddiau mewn ffordd sterilaidd yn ystod llawdriniaethau.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weithredu fel nyrs wedi sgwrio yn ystod llawdriniaethau milfeddygol ar gleifion milfeddygol
  2. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth roi cymorth fel nyrs wedi sgwrio yn ystod llawdriniaethau milfeddygol ar gleifion milfeddygol
  3. dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  4. defnyddio'r technegau hylendid dwylo gofynnol wrth weithredu fel nyrs wedi sgwrio i fodloni anghenion y llawdriniaeth filfeddygol
  5. dilyn y technegau gwisgo menig cywir
  6. cadw'r offer a'r deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol wedi eu sterileiddio ar gyfer cyflawni llawdriniaethau milfeddygol
  7. cyfrif yr holl offer a'r deunyddiau llawfeddygol i olrhain eu defnydd cyn, yn ystod, ac ar ôl y llawdriniaeth filfeddygol
  8. gosod offer llawfeddygol yn y cyfeiriad cywir er mwyn i'r llawfeddyg milfeddygol allu eu defnyddio ar unwaith
  9. cynnal sterileiddiwch offer a deunyddiau llawfeddygol heb eu defnyddio yn ystod y llawdriniaethau milfeddygol
  10. cynorthwyo'r llawdriniaethau milfeddygol yn brydlon ac yn gywir yn unol â gofynion y llawfeddyg milfeddygol a chyflwr y claf milfeddygol
  11. trin anatomeg y claf milfeddygol yn unol â gofynion y llawfeddyg milfeddygol
  12. gosod deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol yn y lleoliad gofynnol yn unol â phrotocolau ymarfer milfeddygol
  13. gosod offer llawdriniaeth filfeddygol ar y claf milfeddygol yn y lleoliad cywir gyda'r effaith leiaf posibl ar feinwe'r claf milfeddygol
  14. gweithredu offer llawdriniaeth filfeddygol a'i ddefnyddio ar yr amser gofynnol
  15. tynnu a datgysylltu offer a deunyddiau llawfeddygol nad oes eu hangen ar gyfer adferiad y claf milfeddygol ar ôl cwblhau'r llawdriniaeth filfeddygol
  16. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  17. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weithredu fel nyrs wedi sgwrio yn ystod llawdriniaethau milfeddygol ar anifeiliaid
  2. y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer gweithio mewn ystafell llawdriniaethau milfeddygol
  3. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol a'r technegau hylendid dwylo sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  4. y rolau gwahanol sydd yn gysylltiedig â rhoi cymorth i lawfeddygon milfeddygol yn ystod llawdriniaethau
  5. gofynion nyrs wedi sgwrio wrth weithio yn yr ystafell llawdriniaethau milfeddygol
  6. y rhesymau pam y mae'n rhaid eich bod wedi sgwrio'n llawn ar gyfer llawdriniaethau penodol a phwysigrwydd dilyn y dechneg gwisgo menig ofynnol
  7. gofynion llawfeddygon milfeddygol yn ystod llawdriniaethau a sut mae cyflwr y claf milfeddygol yn effeithio ar y rhain
  8. pam y mae'n bwysig nodi a darparu'r offer llawdriniaeth filfeddygol gofynnol a darparu offer ychwanegol yn ôl cais y llawfeddyg milfeddygol
  9. pam y mae'n bwysig cyfrif yr offer a'r deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth filfeddygol
  10. sut i osod mathau gwahanol o offer llawdriniaeth filfeddygol ar gyfer cael gafael arnynt a'u defnyddio'n hawdd
  11. sut i gynnal sterileiddiwch offer a deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol a pham mae hyn yn bwysig
  12. y technegau trin gofynnol ar gyfer rhannau gwahanol o anatomeg claf milfeddygol yn ystod llawdriniaeth filfeddygol
  13. y lleoliadau gofynnol ar gyfer cymhwyso deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol
  14. egwyddorion meddygol dyfrhau safle llawdriniaeth
  15. egwyddorion meddygol gosod meddyginiaethau yn lleol yn ystod llawdriniaeth filfeddygol
  16. sut a ble i gysylltu mathau gwahanol o offer llawdriniaeth filfeddygol yn ystod llawdriniaethau
  17. egwyddorion defnyddio offer sugno a phryd y gallai fod ei angen
  18. pam y mae'n bwysig monitro cyflwr cleifion milfeddygol a diddymu unrhyw bryderon y llawfeddyg milfeddygol
  19. sut i symud cleifion milfeddygol oddi wrth offer llawdriniaeth filfeddygol a'r amserau cywir ar gyfer gwneud hynny
  20. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  21. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig 
  22. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN24

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

offer llawfeddygol; gofal anifeiliaid; milfeddygol; sugno