Cynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol fel cynorthwyydd llawfeddygol yn ystod llawdriniaethau
URN: LANRVN17
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo’r llawfeddyg milfeddygol fel cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol yn ystod llawdriniaethau. Mae’n cynnwys darparu offer a deunyddiau yn ystod llawdriniaethau.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth weithredu fel cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol yn ystod llawdriniaethau milfeddygol
- gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth ddarparu cymorth fel cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol yn ystod llawdriniaethau milfeddygol
- defnyddio'r dechneg hylendid dwylo gofynnol fel y bo'n briodol wrth weithredu fel cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol yn ystod llawdriniaethau milfeddygol
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- rhoi'r offer a'r deunyddiau i'r llawfeddyg milfeddygol ar gyfer cyflawni llawdriniaethau milfeddygol ar y claf milfeddygol
- gosod offer llawfeddygol yn y cyfeiriad cywir ar gyfer eu defnyddio ar unwaith gan y llawfeddyg milfeddygol
- cynnal sterileiddiwch yr offer a'r deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol wrth gynorthwyo'r llawfeddyg milfeddygol yn ystod llawdriniaethau
- gwaredu deunydd dros ben a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r filfeddygfa
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion rheoli risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr fel cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol yn ystod llawdriniaethau
- y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer gweithio mewn ystafell llawdriniaethau milfeddygol
- gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy'n berthnasol i'r ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- y technegau hylendid dwylo gofynnol ar gyfer cynorthwyydd llawfeddygol cyffredinol
- y mathau o amodau lle mae angen llawdriniaeth ar gleifion milfeddygol
- yr offer a'r deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol sydd eu hangen ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
- pam y mae'n bwysig adnabod a darparu'r offer llawdriniaeth filfeddygol gofynnol a darparu offer ychwanegol yn ôl cais y llawfeddyg milfeddygol
- pam y mae'n bwysig cyfrif yr offer a'r deunydd llawdriniaeth filfeddygol cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth
- pan fydd angen offer sugno a sut i'w ddefnyddio
- sut i osod mathau gwahanol o offer llawdriniaeth filfeddygol ar gyfer rhwyddineb cael gafael arnynt a'u defnyddio gan y llawfeddyg milfeddygol
- sut i gynnal sterileiddiwch offer a deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol a pham y mae hyn yn bwysig
- y deunyddiau a'r nwyon dros ben a gwastraff yn yr amgylchedd llawfeddygol a sut i ymdrin â phob un o'r rhain
eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
08 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
LANRVN23
URN gwreiddiol
LANRVN23
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
gofal anifeiliaid; nyrs filfeddygol; llawfeddygol