Paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol. Bydd hyn ar gyfer llawdriniaethau bach neu fawr, cael y safle cywir a pharatoadau croen aseptig.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
- defnyddio’r dechneg hylendid dwylo cywir ar gyfer y paratoadau sydd yn cael eu gwneud
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith yn yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
- cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a’r llawdriniaeth filfeddygol sydd yn cael ei chynnal yn erbyn y wybodaeth sydd ar gael
- sefydlu ac atal y claf milfeddygol gan ddefnyddio’r offer a’r dulliau atal gofynnol
- paratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
- rhoi meddyginiaeth cyn llawdriniaeth i’r claf milfeddygol yn unol â chyfarwyddyd y llawfeddyg milfeddygol
- nodi safleoedd milfeddygol a sicrhau bod y gweithdrefnau paratoi’r croen cyn llawdriniaeth yn cael eu gwneud
- defnyddio offer i gynnal tymheredd corff y claf milfeddygol ac i atal dirywiad clinigol
- gwirio’r amodau amgylcheddol i fodloni anghenion y claf milfeddygol
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â’r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i asesu’r risg i iechyd a diogelwch wrth baratoi cleifion milfeddygol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
pwysigrwydd dewis y dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol yn yr amgylchedd llawfeddygol
- y technegau hylendid dwylo gwahanol ar gyfer y paratoadau sydd yn cael eu gwneud
- y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
- y math o wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyflwr y claf milfeddygol a’r gweithdrefnau llawfeddygol sydd yn cael eu cynnal
- sut i osod ac atal mathau gwahanol o glaf milfeddygol ar gyfer mathau gwahanol o lawdriniaethau milfeddygol
- y mathau o weithdrefnau cyn llawdriniaeth y dylid eu gwneud ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol gwahanol
- y ffordd y gallai cyflwr y claf milfeddygol effeithio ar y gofynion paratoi ac ymdrin ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
- yr offer a’r dulliau sydd ar gael i gynnal tymheredd corff y claf milfeddygol a lleihau dirywiad clinigol
- yr addasiadau i amodau amgylcheddol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o gleifion milfeddygol
- eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dulliau paratoi gynnwys:
ymdrochi, paratoi, tocio neu eillio ffwr, gweinyddu enemâu
Gallai’r mathau o weithdrefnau cyn llawdriniaeth gynnwys rhai: dewisol, yr abdomen, y pen a’r gwddf, orthopedig