Paratoi a chynnal a chadw’r amgylchedd a’r offer yn barod ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi a chynnal a chadw’r amgylchedd a’r offer yn barod ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol. Bydd angen eich bod yn gallu paratoi a chynnal a chadw’r amgylchedd llawfeddygol, yn cynnwys paratoi ystafelloedd, ystafelloedd llawdriniaeth, offer a deunyddiau.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr yn yr amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
dewis a gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer gweithio yn yr amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
defnyddio’r dechneg hylendid dwylo gofynnol
dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith yn yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
cadw’r amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol yn aseptig yn barod ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
cynnal eich sterileiddiwch eich hun a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi a chynnal a chadw’r amgylchedd a’r offer
cynnal a chadw a storio offer a deunyddiau llawfeddygol yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
cynnal sterileiddiwch y maes llawfeddygol
glanhau a sterileiddio offer a chyfarpar llawfeddygol
defnyddio dull sterileiddio gofynnol ymarfer milfeddygol
cadarnhau bod yr offer a’r deunyddiau llawfeddygol gofynnol gan y llawfeddyg milfeddygol
paratoi’r offer a’r deunyddiau llawfeddygol yn unol â gweithdrefnau’r filfeddygfa
gosod offer a deunyddiau llawfeddygol yn y safle gofynnol i gynorthwyo’r llawdriniaeth filfeddygol
rhoi’r wybodaeth berthnasol am y llawdriniaeth filfeddygol i’r llawfeddyg milfeddygol ac aelodau’r filfeddygfa sy’n defnyddio’r amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
rheoli’r amodau amgylcheddol i gyd-fynd â chyflwr a gofynion y claf milfeddygol a’r math o lawdriniaeth filfeddygol sy’n cael ei chynnal
hysbysu cydweithwyr ynghylch unrhyw anawsterau yn darparu offer a deunyddiau yn unol â gweithdrefnau’r filfeddygfa
cydymffurfio â’r rheoliadau a’r canllawiau perthnasol, yn ymwneud â defnyddio offer a deunyddiau llawfeddygol, bob amser
symud deunyddiau dros ben a gwastraff, a nwyon o’r amgylchedd llawfeddygol a’u gwaredu yn unol â gofynion rheoliadol perthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr yn yr amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
sut i ddewis y dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol ar gyfer gweithio yn yr amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
- y technegau hylendid dwylo gofynnol a gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
- sut i lanhau mathau gwahanol o amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
- y dulliau sydd ar gael i lanhau a sterileiddio offer a chyfarpar
- sut i gynnal amgylcheddau sterilaidd mewn amgylchedd llawdriniaeth filfeddygol
- yr offer a’r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer gweithdrefnau gwahanol llawdriniaeth filfeddygol a pham y mae’n bwysig cael arweiniad gan lawfeddyg milfeddygol am y rhain
gofynion paratoi mathau gwahanol o offer a deunyddiau llawdriniaeth filfeddygol
gofynion paratoi a defnyddio offer sugno
- ble dylid gosod offer a deunyddiau llawfeddygol ar gyfer gweithdrefnau gwahanol llawdriniaeth filfeddygol
- y mathau o wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer llawdriniaethau milfeddygol
- yr amodau amgylcheddol a ddylai fodoli ar gyfer mathau gwahanol o lawdriniaethau
- y namau sydd yn digwydd i offer llawdriniaethau milfeddygol sydd yn effeithio ar eu gweithrediad, eu dibynadwyedd, eu diogelwch a’u heffeithiolrwydd a’r camau i’w cymryd i’w hunioni neu eu hadfer
- y mathau o namau a all ddigwydd gyda deunyddiau, yn cynnwys niwed i becynnau, dirywiad a halogiad
- y rheoliadau a’r canllawiau perthnasol yn ymwneud â defnyddio offer a deunyddiau llawfeddygol
- y deunyddiau dros ben a gwastraff, a’r nwyon o’r amgylchedd llawfeddygol a sut i ymdrin â phob un o’r rhain
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol