Cynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol a chreu’r canlyniadau

URN: LANRVN14
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol a chreu’r canlyniadau.  Bydd hyn yn cynnwys cadarnhau cyflwr y cleifion milfeddygol a nodi pa brawf diagnostig sy’n ofynnol, nodi’r ardaloedd i gael eu delweddu, prosesu’r ddelwedd ddiagnostig yn gywir a chofnodi’r canlyniadau yn unol â’r gweithdrefnau ymarfer milfeddygol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a’r dechneg delweddu diagnostig sy’n ofynnol

  2. asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol 

  3. dewis a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio 
  4. dewis a gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol a chadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r prawf diagnostig yn cydymffurfio
  5. sefydlu ac atal y claf milfeddygol gan ddefnyddio offer a dulliau atal addas
  6. nodi’r ardaloedd i gael eu delweddu a chynnal y delweddau diagnostig yn unol â gofynion y llawfeddyg milfeddygol a chyflwr y claf milfeddygol 
  7. monitro’r claf milfeddygol i ganfod anawsterau tra’n cynnal y delweddau diagnostig 
  8. sicrhau bod y claf milfeddygol wedi ymlacio a lleihau anesmwythdra corfforol yn yr amgylchedd clinigol
  9. dod â’r sesiwn delweddau diagnostig i ben yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
  10. cwblhau cofnodion yn unol â gofynion cyfreithiol ac ymarfer milfeddygol perthnasol
  11. prosesu’r ddelwedd ddiagnostig 
  12. creu delweddau diagnostig o’r ansawdd gofynnol gan y filfeddygfa
  13. gwirio ansawdd y ddelwedd ddiagnostig a sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cofnodi yn erbyn y claf milfeddygol a nodwyd yn unol â gweithdrefnau’r filfeddygfa
  14. nodi unrhyw ganlyniadau delweddau diagnostig annilys a sicrhau camau adferol
  15. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
  16. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pam y mae’n bwysig cadarnhau pa ardal o’r claf milfeddygol sy’n cael ei archwilio a pha dechneg delweddau sy’n ofynnol

  2. sut i asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol

  3. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol sy’n berthnasol i’r ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio

  4. y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer cynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol

  5. sut i sefydlu ac atal mathau gwahanol o gleifion milfeddygol

  6. sut i sicrhau bod y technegau diagnostig cywir yn cael eu cymhwyso

  7. sut i gynnal mathau gwahanol o ddelweddau diagnostig

  8. pwysigrwydd monitro cleifion milfeddygol yn ystod delweddau diagnostig a phryd i hysbysu aelodau o’r tîm milfeddygol ynghylch unrhyw bryderon

  9. sut i sicrhau bod y claf milfeddygol wedi ymlacio a lleihau anesmwythdra corfforol mewn amgylcheddau clinigol

  10. pwysigrwydd lleoliad, cyfarwyddiadau anatomeg, cyflinelliad, canoli a labelu wrth gynnal delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol

  11. pa addasiadau i amodau amgylcheddol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o gleifion milfeddygol

  12. sut i greu’r ddelwedd a gofnodwyd i ansawdd diagnostig gofynnol ymarfer milfeddygol

  13. y dogfennau y mae’n rhaid eu llenwi ar ddiwedd y sesiwn delweddau diagnostig

  14. gweithdrefnau’r filfeddygfa ar gyfer dadansoddi a chofnodi canlyniadau

  15. pam y mae’n bwysig bod y canlyniadau yn cyfateb â’r claf milfeddygol cywir

  16. y dulliau ar gyfer atal halogiad wrth greu canlyniadau

  17. yr arwyddion o ganlyniadau annilys a namau sydd yn digwydd a’r camau adferol

  18. eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol

  19. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig

  20. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN20

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

delweddau diagnostig; radiograffeg