Paratoi a chynnal a chadw offer delweddau diagnostig i’w defnyddio ar gleifion milfeddygol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi offer a deunyddiau delweddau diagnostig ar gyfer amrywiaeth o dechnegau delweddau diagnostig ar gleifion milfeddygol, yn cynnwys radiograffi, uwchsain ac endosgopi.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys cynnal a chadw offer delweddau diagnostig, yn cynnwys glanhau ac adnewyddu eitemau traul.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a’r prawf diagnostig sy’n ofynnol yn erbyn y wybodaeth sydd ar gael
asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth baratoi offer a deunyddiau delweddau diagnostig
dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth baratoi a chynnal a chadw’r offer delweddau diagnostig i’w defnyddio ar gleifion milfeddygol
paratoi a gosod offer a deunyddiau delweddau diagnostig yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol a’r prawf diagnostig i gael ei gynnal
cynnal a chadw offer a deunyddiau delweddau diagnostig yn unol ag amserlenni cynnal a chadw ymarfer milfeddygol, gweithdrefnau ymarfer milfeddygol a chanllawiau’r cynhyrchydd, yn cynnwys glanhau ac adnewyddu eitemau traul
gwirio am namau mewn offer a deunyddiau delweddau diagnostig a chymryd y camau i unioni neu adrodd yn eu cylch
cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a diogelwch anifeiliaid
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand: