Gweinyddu cymorth cyntaf brys a chynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu triniaeth frys i gleifion milfeddygol
URN: LANRVN12
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweinyddu cymorth cyntaf brys i gleifion milfeddygol a gallu cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu triniaeth frys i gleifion milfeddygol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad cychwynnol o gyflwr corfforol a meddygol y claf milfeddygol
- asesu risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weinyddu cymorth cyntaf a chynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu triniaeth frys i gleifion milfeddygol
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol ar waith ar gyfer ardal y filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- asesu anghenion lles anifeiliaid y claf milfeddygol a sut gellir mynd i'r afael â nhw neu eu gweithredu tra'u bod yn eich gofal
- sicrhau bod systemau hanfodol y claf milfeddygol yn weithredol
- dadebru i gynnal bywyd lle bo angen
- archwilio'r claf milfeddygol i gynnal asesiad cyflawn o'i gyflwr nid safle'r anaf yn unig
- cael gwybodaeth am y claf milfeddygol lle y bo'n bosibl (e.e. cyflyrau meddygol perthnasol neu hanes diweddar o ofal milfeddygol)
- blaenoriaethu eich gweithredoedd cymorth cyntaf i sefydlogi'r claf milfeddygol
- gweinyddu cymorth cyntaf i'r claf milfeddygol yn unol â gweithdrefnau'r ymarfer o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb
- monitro canlyniadau'r cymorth cyntaf a weinyddwyd gennych
- cynorthwyo'r llawfeddyg milfeddygol i ddarparu triniaeth frys
- hysbysu'r llawfeddyg milfeddygol am gyflwr y claf milfeddygol
- gwaredu deunyddiau dros ben a gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau ymarfer milfeddygol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pam y mae’n bwysig gweinyddu’r cymorth cyntaf gofynnol a chynorthwyo gyda’r gwaith o gadarnhau cyflwr y cleifion milfeddygol
2. sut i asesu’r risg i’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weinyddu cymorth cyntaf brys a chynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu triniaeth frys i gleifion milfeddygol
3. pwysigrwydd dewis a gwisgo’r dillad a’r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth weinyddu cymorth cyntaf brys a chynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu triniaeth frys i gleifion milfeddygol
4. gweithdrefnau gofynnol rheoli heintiau ymarfer milfeddygol ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
5. arwyddion cyflyrau clinigol mewn cleifion milfeddygol sydd angen cymorth cyntaf
6. y bygythiad i fywyd y claf milfeddygol a gyflwynir gan weithdrefnau cymorth cyntaf
7. sut i asesu anghenion lles anifeiliaid y claf milfeddygol a sut gellir mynd i’r afael â nhw
8. sut i sefydlogi cleifion milfeddygol â chyflyrau gwahanol a sut i flaenoriaethu triniaeth cymorth cyntaf
9. pam y mae’n bwysig hysbysu’r cleient ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd ar y claf milfeddygol
10. egwyddorion cymorth cyntaf anifeiliaid
11. y protocolau ymarfer milfeddygol sy’n berthnasol i ddarparu cymorth cyntaf a thriniaeth frys i gleifion milfeddygol yn eich milfeddygfa
12. sut i weinyddu mathau gwahanol o gymorth cyntaf i gleifion milfeddygol
13. yr arwyddion bod y cymorth cyntaf yn gweithio
14. pam y mae’n bwysig hysbysu’r llawfeddyg milfeddygol ynghylch pryderon am gyflwr y claf milfeddygol
15. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
16. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
17. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Angen Iechyd a Lles Anifeiliaid:
am amgylchedd addas (lle i fyw)
am ddeiet addas.
i arddangos patrymau ymddygiad arferol.
i gael eu rhoi gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (os yn berthnasol)
i gael eu diogelu rhag poen, anaf, dioddefaint a chlefydau.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN17
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
cymorth cyntaf brys; triniaeth frys; gofal anifeiliaid