Cyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol

URN: LANRVN11
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio milfeddygol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifo’r lefel ofynnol o hylif, pibellu gwythïen y claf milfeddygol, gweinyddu therapi hylifol a monitro’r claf milfeddygol wrth weinyddu ac ar ôl hynny.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. pennu'r therapi hylifol cywir yn unol â gofynion y claf milfeddygol a chyfarwyddiadau'r llawfeddyg milfeddygol
  2. asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth gyfrifo a gweinyddu'r therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  3. dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
  4. gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) gofynnol wrth gyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  5. cyfrifo'r gofynion hylifol ar gyfer y claf milfeddygol yn cynnwys cyfradd y llif
  6. cydosod yr offer a'r deunyddiau ar gyfer gweinyddu'r therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  7. darparu'r anghenion lles anifeiliaid gofynnol i'r claf milfeddygol
  8. sicrhau bod y claf wedi ei sefydlu a'i atal, gan ddefnyddio'r dulliau a'r offer atal gofynnol
  9. pibellu gwythïen ar y claf milfeddygol, gan ddefnyddio technegau aseptig
  10. gweinyddu'r therapi hylifol gofynnol yn unol â gofynion hylif y claf milfeddygol sydd wedi ei gyfrifo
  11. monitro'r claf milfeddygol yn ystod ac ar ôl gweinyddu'r therapi hylifol
  12. nodi pryderon yn ymwneud â chyflwr y claf milfeddygol yn sgîl y therapi hylifol a thynnu sylw'r llawfeddyg milfeddygol atynt
  13. gwaredu deunydd dros ben a gwastraff yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
  14. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid perthnasol
  15. gwneud eich gwaith yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pam y mae'n bwysig cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a'r therapi hylifol gyda'r llawfeddyg milfeddygol
  2. sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi a chydweithwyr wrth gyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  3. y dillad a'r offer amddiffynnol personol (PPE) sy'n ofynnol ar gyfer cyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  4. y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar gyfer cyfrifo a gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  5. yr amodau ar gyfer gweinyddu therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  6. y mathau o offer a deunyddiau therapi hylifol
  7. y mathau o ddulliau atal ar gyfer mathau gwahanol o rywogaethau cleifion milfeddygol
  8. sut i gyfrifo'r gofynion hylif ar gyfer cyflyrau anifeiliaid gwahanol, yn cynnwys math o hylif, maint a chyfradd y llif
  9. sut i bibellu gwythïen addas claf mewnol milfeddygol gan ddefnyddio technegau aseptig
  10. sut i weinyddu mathau gwahanol o therapi hylifol i gleifion milfeddygol
  11. y dulliau monitro y dylid eu defnyddio yn ystod therapi hylifol
  12. pwysigrwydd monitro cleifion milfeddygol yn ystod ac ar ôl gweinyddu therapi hylifol a pham y mae'n bwysig tynnu sylw'r llawfeddyg milfeddygol at bryderon yn ymwneud â'r claf milfeddygol
  13. sut i waredu deunyddiau dros ben a gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau ymarfer milfeddygol
  14. eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  15. eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
  16. eich cyfrifoldeb yn unol â'r deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Angen Iechyd a Lles Anifeiliaid:

  • am amgylchedd addas (lle i fyw)
  • am ddeiet addas.
  • i ddangos patrymau ymddygiad arferol.
  • i gael eu gosod gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (os yn berthnasol)
  • i gael eu diogelu rhag poen, anaf, dioddefaint a chlefydau.

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantr

URN gwreiddiol

LANRVN16

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

therapi hylifol, rheoli llif, cathetrau