Gweinyddu gofal nyrsio brys a chritigol i gleifion milfeddygol
URN: LANRVN10
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweinyddu gofal brys a chritigol i gleifion milfeddygol. Mae hefyd yn cynnwys gweinyddu cymorth cyntaf brys i anifeiliaid, therapi hylifol a monitro cyflwr claf milfeddygol gofal critigol yn ystod y cyfnodau gofynnol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrs filfeddygol gofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weinyddu gofal nyrsio brys a chritigol i gleifion milfeddygol
- dewis a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa lle'r ydych yn gweithio
- cynnal archwiliad llawn o'r claf milfeddygol i asesu eu cyflwr a chadarnhau bod y systemau hanfodol yn weithredol
- blaenoriaethu camau brys i sefydlogi'r claf milfeddygol i atal cymhlethdodau corfforol a meddygol pellach
- cael unrhyw wybodaeth angenrheidiol am y claf milfeddygol lle y bo'n bosibl (e.e. cyflyrau perthnasol neu hanes diweddar o ofal milfeddygol)
- ffurfio cynllun gofal nyrsio milfeddygol critigol mewn ymgynghoriad â'r llawfeddyg milfeddygol
- gweinyddu gofal nyrsio critigol i fodloni anghenion y claf milfeddygol, ei gyflwr a gofynion triniaeth
- cadarnhau bod y claf milfeddygol gofal critigol wedi ei osod a'i atal gan ddefnyddio'r dulliau a'r offer atal gofynnol
- monitro a chofnodi cyflwr y claf milfeddygol gofal critigol yn ystod y cyfnodau gofynnol gan ddilyn polisi ymarfer milfeddygol a hysbysu'r llawfeddyg milfeddygol ynghylch unrhyw bryderon
- hysbysu'r cleient am y camau sy'n cael eu cymryd fel y bo angen
- gwerthuso'r gofal nyrsio brys a chritigol sy'n cael ei ddarparu ac adolygu'r cynllun nyrsio milfeddygol critigol yn unol â hynny
- gwaredu deunyddiau dros ben a gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid perthnasol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y broses o adlewyrchu a'r modelau adlewyrchol amrywiol sydd ar gael mewn gofal nyrsio milfeddygol
- sut i asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â gweinyddu gofal brys a chritigol i gleifion milfeddygol
- egwyddorion meddygol a phrotocolau ymarfer milfeddygol sy'n berthnasol i weinyddu gofal brys a chritigol
- gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol wrth weinyddu gofal nyrsio brys a chritigol i gleifion milfeddygol
- yr arwyddion clinigol ymysg cleifion milfeddygol sydd yn gofyn am ofal nyrsio brys a chritigol
- pam y mae'n bwysig cadarnhau cyflwr y claf milfeddygol a'i ofynion ar gyfer triniaeth a gofal nyrsio critigol gyda'r llawfeddyg milfeddygol
- y mathau o ofal nyrsio brys a chritigol sydd eu hangen ar gleifion milfeddygol a sut i weinyddu hyn
- sut i sefydlogi cleifion milfeddygol â chyflyrau gwahanol a sut i flaenoriaethu triniaeth frys a chritigol
- sut i ffurfio cynllun gofal nyrsio critigol ar gyfer claf milfeddygol, mewn ymgynghoriad â'r llawfeddyg milfeddygol
- sut i osod ac atal rhywogaethau gwahanol o gleifion milfeddygol ar gyfer mathau gwahanol o ofal nyrsio critigol
- pam y mae'n bwysig monitro a chofnodi cyflwr y claf milfeddygol gofal critigol yn ystod y cyfnodau gofynnol a hysbysu'r llawfeddyg milfeddygol ynghylch unrhyw bryderon
- pam y mae'n bwysig hysbysu'r cleient ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd lle bo angen
- yr arwyddion bod y driniaeth gofal nyrsio brys a chritigol yn gweithio
- sut i asesu anghenion lles anifeiliaid y claf milfeddygol a sut y gellir mynd i'r afael â nhw neu eu rhoi ar waith tra'u bod yn eich gofal
- pwysigrwydd cynnwys therapi corfforol yng nghynllun gofal critigol y cleifion milfeddygol
- pwysigrwydd cyfrannu a chymryd rhan yn y broses o adolygu digwyddiad critigol
- sut i waredu deunydd dros ben a gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol fel nyrs filfeddygol gofrestredig
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynllun gofal nyrsio milfeddygol critigol; darparu cymorth cyntaf brys, therapi hylifol, monitro cleifion milfeddygol â chyflyrau sydd yn rhoi bywyd yn y fantol, monitro cleifion milfeddygol sy'n cael anhawster yn anadlu, monitro rhythm y galon, monitro cleifion milfeddygol sydd mewn sioc.
20. Anghenion Lles Anifeiliaid:
21. ar gyfer amgylchedd addas (lle i fyw)
22. ar gyfer deiet addas.
23. i arddangos patrymau ymddygiad arferol.
24. i gael eu gosod gyda, neu ar wahân i, anifeiliaid eraill (os yn berthnasol)
25. i gael eu diogelu rhag poen, anaf, dioddefaint a chlefydau.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN15
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
nyrsio arbenigol; cynllun gofal; gofal anifeiliaid