Datblygu, cymhwyso a monitro rheoli heintiau mewn milfeddygfa

URN: LANRVN1
Sectorau Busnes (Suites): Nyrsio Deintyddol,Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu, cymhwyso a monitro rheoli heintiau yn y filfeddygfa. Mae hyn yn cynnwys y safonau sy’n ofynnol ar gyfer rheoli ataliaeth risg mewn milfeddygfa, trwy ddefnyddio’r dulliau rheoli heintiau priodol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu'r strategaethau rheoli heintiau perthnasol ar gyfer ardaloedd gwahanol o'r filfeddygfa
  2. cymhwyso a monitro'r strategaethau rheoli heintiau perthnasol ar gyfer ardaloedd gwahanol o'r filfeddygfa
  3. asesu'r risg i iechyd a diogelwch o ran eich hun a chydweithwyr sydd yn gysylltiedig â chymhwyso gweithdrefnau rheoli heintiau gwahanol yn y filfeddygfa
  4. asesu'r risg o wneud eich hun a chydweithwyr yn agored i ficro-organebau heintus, cyn, yn ystod ac ar ôl pob gweithgaredd y byddwch yn ei wneud
  5. dewis a defnyddio'r dull gofynnol ar gyfer dadhalogi, diheintio neu sterileiddio'r filfeddygfa
  6. dewis a defnyddio'r dull gofynnol o hylendid dwylo
  7. dewis a defnyddio dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  8. cyflawni a monitro gweithdrefnau rheoli heintiau gwahanol ymarfer milfeddygol
  9. adnabod a hysbysu pawb sydd yn gysylltiedig â rheoli heintiau, neu wedi eu heffeithio gan hyn, ynghylch unrhyw beryglon, problemau neu dystiolaeth o gyflyrau a allai fod yn heintus
  10. cymhwyso nyrsio rhwystrol neu dechnegau ynysu perthnasol wrth ofalu am gleifion milfeddygol
  11. rhoi cyngor i gleientiaid am y risg o heintio a sut i'w leihau
  12. adrodd ynghylch unrhyw gyflyrau iechyd personol a allai gynyddu'r risg o drosglwyddo clefydau i chi eich hun a chydweithwyr

  13. cwblhau cofnodion yn unol â gweithdrefnau'r filfeddygfa

  14. gwaredu deunyddiau gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r weithdrefn ymarfer milfeddygol
  15. cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol
  16. gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer neu bolisïau busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd datblygu strategaethau rheoli heintiau perthnasol ar gyfer ardaloedd gwahanol y filfeddygfa

  2. y mathau a’r defnydd o dechnegau dadhalogi, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir i fonitro rheoli heintiau mewn milfeddygfa

  3. y protocolau hylendid perthnasol ar gyfer ardaloedd gwahanol y filfeddygfa i leihau lledaenu heintiau a halogi

  4. y mathau gwahanol o hylendid dwylo a’r arfer gorau presennol

  5. y mathau a’r defnydd o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer rheoli heintiau yn yr ardaloedd gwahanol o’r filfeddygfa

  6. sut i gymhwyso, monitro a chynnal nyrsio rhwystrol neu dechnegau ynysu mewn milfeddygfa

  7. yr ystod o gyflyrau meddygol neu weithdrefnau llawfeddygol a allai fod angen nyrsio rhwystrol neu dechnegau ynysu mewn milfeddygfa

  8. polisïau’r filfeddygfa ar gyfer cael mynediad i ardaloedd gwahanol o’r filfeddygfa, yn cynnwys rhannu ardaloedd a rhwystrau amddiffynnol

  9. y defnydd o raglenni gwyliadwriaeth milfeddygfa wrth fonitro rheoli heintiau mewn amgylchedd milfeddygol

  10. y cyngor y dylid ei roi i gleientiaid i leihau’r risg o heintiau gyda’u hanifeiliaid

  11. y camau y dylid eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefn filfeddygol i leihau’r risg o gyswllt â chyfryngau heintus a thrawshalogi

  12. egwyddorion meddygol ac achosion heintio, traws-heintio, trosglwyddo a chytrefu

  13. egwyddorion meddygol ac amgylcheddol bioddiogelwch mewn milfeddygfa

  14. ystyr ac arwyddocâd y termau “pathogenaidd”, “amhathogenaidd”, “milheintiol”, “hysbysadwy”, “heintiol” a “heintus”

  15. y risg milheintiol i chi eich hun, cydweithwyr, cleientiaid a’r cyhoedd ehangach

  16. pam y mae’n bwysig hysbysu ynghylch unrhyw gyflyrau iechyd personol a allai gynyddu’r risg o drosglwyddo clefydau i chi eich hun ac eraill

  17. pwysigrwydd cwblhau cofnodion i gynorthwyo’r gwaith o reoli heintiau mewn milfeddygfa

  18. y ffynonellau gwybodaeth am reoli heintiau a ble i ddod o hyd iddynt

  19. sut i arwahanu a gwaredu’r categorïau gwahanol o wastraff a gynhyrchir mewn milfeddygfa

  20. y rheoliadau perthnasol yn ymwneud â thrin a storio sylweddau a allai fod yn beryglus

  21. eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyflyrau iechyd personol:

yn cynnwys gwrthimiwnedd ac alergeddau, tarwden, MRSA, milhaint


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANRVN3

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrs milfeddygol

Cod SOC

6131

Geiriau Allweddol

rheoli heintiau; amgylcheddau clinigol