Sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid ar safleoedd awyr agored

URN: LANLP9
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid ar safleoedd awyr agored. Mae hyn yn cynnwys monitro sefydlogrwydd parhaus y safle awyr agored i gefnogi’r anifeiliaid a nodi newidiadau yng nghyflwr neu ymddygiad yr anifeiliaid. Mae’n rhaid eich bod yn gallu cymryd y camau perthnasol pan fydd newidiadau o’r fath yn cael eu nodi.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
   
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid ar safleoedd awyr agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  5. gwirio a chadarnhau addasrwydd y safle awyr agored a’i fod yn barod ar gyfer anifeiliaid, bod ei ffiniau’n ddiogel ac yn gadarn a bod lloches, os oes angen, ar gael 
  6. cadarnhau bod mesurau yn eu lle i ddiogelu’r anifeiliaid rhag cael eu tarfu neu rhag ysglyfaethwyr
  7. sicrhau bod maint ac ansawdd y pori’n bodloni anghenion yr anifeiliaid, yn cynnwys edrych am bresenoldeb planhigion a choed buddiol a gwenwynig yn ogystal â phlâu a chlefydau
  8. cadarnhau bod y cyflenwad o borthiant a dŵr glân yn bodloni gofynion anifeiliaid a gofynion cyfreithiol
  9. sefydlu’r anifeiliaid ar y safle awyr agored mewn ffordd sy’n lleihau straen, yn cynnal eu hiechyd a’u lles ac yn cynnal eich diogelwch eich hun
  10. defnyddio a monitro patrymau pori addas ar gyfer yr anifeiliaid a’r glaswellt neu’r cnwd porthiant
  11. monitro amodau ar y safle awyr agored a chymryd y camau angenrheidiol os yw’n mynd yn anaddas i’r anifeiliaid oherwydd y tywydd neu newidiadau eraill 
  12. cynnal y safle awyr agored a’i ffiniau i gadarnhau eu haddasrwydd, eu diogelwch a’u diogeledd parhaus
  13. monitro a nodi pryd y mae angen gwella glaswelltir a chymryd y camau perthnasol
  14. monitro’r anifeiliaid i asesu eu hiechyd a’u lles parhaus tra’u bod ar y safle awyr agored a chymryd y camau angenrheidiol os bydd unrhyw newidiadau
  15. monitro cyflenwad porthiant a dŵr, yn unol â gofynion anifeiliaid ac amodau amgylcheddol
  16. addasu niferoedd a chymysgedd yr anifeiliaid lle bo angen, i roi cyfrif am y cyfnod cynhyrchu ac anghenion yr anifeiliaid
  17. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  18. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  19. gwneud eich holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaeth asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  20. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon posibl i anifeiliaid a phobl a allai fod yn bresennol ar y safle anifeiliaid awyr agored a’r ffordd y gellir lleihau’r rhain
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  4. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, cynnal a chadw, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  5. sut i asesu addasrwydd y safle awyr agored ar gyfer y brîd o anifeiliaid 
  6. sut i asesu peryglon diogelwch a diogeledd posibl ac addasrwydd ffiniau gwahanol, a lloches, os oes angen, ar gyfer yr anifeiliaid
  7. yr angen i anifeiliaid gael eu diogelu rhag cael eu tarfu neu rhag ysglyfaethwyr a’r mesurau y gellir eu cymryd
  8. y mathau gwahanol o laswellt a chnydau porthiant a ddefnyddir i gefnogi pori anifeiliaid a sut i’w nodi
  9. sut i asesu maint ac ansawdd y pori, yn cynnwys adnabod presenoldeb plâu a chlefydau, a nodi planhigion sydd o fudd i anifeiliaid yn ogystal â phlanhigion a choed allai fod yn wenwynig
  10. y gofynion sydd gan anifeiliaid am borthiant a dŵr ar safleoedd awyr agored a’r gofynion cyfreithiol perthnasol 
  11. y dulliau o ymdrin ag anifeiliaid yn ddiogel ac yn effeithiol
  12. y dulliau o sefydlu anifeiliaid ar safleoedd awyr agored sy’n lleihau straen ac yn cynyddu derbyniad, a’r peryglon a allai ddigwydd wrth ryddhau anifeiliaid 
  13. y patrymau pori addas ar gyfer yr anifeiliaid a’r glaswellt neu’r cnwd porthiant
  14. sut i fonitro a nodi pryd y mae angen gwella glaswelltir a’r camau y gellir eu cymryd
  15. y dulliau ar gyfer monitro anifeiliaid ar safleoedd awyr agored i gynnal eu hiechyd a’u llesiant a chanlyniadau posibl methu â gwneud hynny
  16. sut i adnabod anifeiliaid iach ac arwyddion salwch
  17. yr angen i wirio niferoedd a ffiniau stoc
  18. pwysigrwydd nodi disbyddiad stoc a phryd i symud anifeiliaid, yn seiliedig ar gyflwr ac argaeledd bwyd
  19. achosion prinder a halogiad dŵr a’r camau i’w cymryd os bydd y rhain yn digwydd
  20. y dulliau o ddarparu porthiant a dŵr i anifeiliaid ar safleoedd awyr agored
  21. y mathau o broblemau a allai ddigwydd gydag anifeiliaid ar safleoedd awyr agored a’r camau i’w cymryd
  22. sut i nodi arwyddion o “botsio” daear a’r camau i’w cymryd
  23. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  24. sut i drin, storio, cludo a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  25. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  26. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  27. y cofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Monitro’r anifeiliaid am: eu cyflwr a’u hymddygiad, iechyd a salwch


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP9

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifail; anifeiliaid; cae; pori; porthi; glaswellt; porthiant; dŵr