Sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid mewn llety dan do
URN: LANLP7
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid mewn llety dan do. Mae hyn yn cynnwys monitro sefydlogrwydd parhaus y llety dan do i gefnogi’r anifeiliaid a nodi newidiadau yng nghyflwr neu ymddygiad yr anifeiliaid. Mae’n rhaid eich bod yn gallu cymryd y camau priodol os bydd newidiadau o’r fath yn cael eu nodi.
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am sefydlu, monitro a chynnal anifeiliaid mewn llety dan do.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael eu gwneud
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
- cadarnhau bod y llety dan do yn addas ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu lletya, ei fod wedi cael ei baratoi yn barod i’w cyflwyno a’i fod yn lân, yn ddiogel ac yn gadarn
- cadarnhau bod deunydd gwely addas yn cael ei ddarparu
- cadarnhau bod cyflenwad porthiant a dŵr glân yn bodloni gofynion anifeiliaid a gofynion cyfreithiol
- cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu lletya
- sefydlu’r anifeiliaid yn y llety dan do mewn ffordd sy’n lleihau straen, yn cynnal eu hiechyd a’u lles ac yn cynnal eich diogelwch chi
- monitro’r anifeiliaid i asesu eu hiechyd a’u lles parhaus tra’u bod yn y llety dan do a chymryd y camau angenrheidiol os oes unrhyw newidiadau
- monitro’r cyflenwad o borthiant a dŵr, yn unol â gofynion anifeiliaid ac amodau amgylcheddol
- monitro’r amodau amgylcheddol yn y llety dan do a chymryd camau i gynnal yr amodau angenrheidiol
- cynnal y llety dan do, yn unol â gofynion yr anifeiliaid
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon posibl i anifeiliaid a phobl a allai ddigwydd mewn llety anifeiliaid dan do a’r ffordd y gellir lleihau hyn
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y mathau o gyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, cynnal a chadw a defnyddio’r rhain, yn ddiogel ac yn gywir
- y berthynas rhwng y llety dan do ac iechyd a lles yr anifeiliaid
- y mathau o lety sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu lletya a’u cylch cynhyrchu
- pwysigrwydd glanhau’r llety a’r dulliau o wneud hyn
- y dwyseddau stoc cywir a’r gofynion gofod ar gyfer yr anifeiliaid, yn unol â’r rheoliadau perthnasol, codau ymarfer a gofynion busnes
- sut i asesu a yw’r llety dan do yn addas ar gyfer yr anifeiliaid ac a yw hyn wedi cael ei baratoi
- y gofynion ar gyfer deunydd gwely ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cael eu lletya
- y gofynion sydd gan anifeiliaid ar gyfer porthiant a dŵr mewn llety dan do a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- y dulliau o drin a sefydlu anifeiliaid yn y llety dan do sy’n lleihau straen ac yn cynnal diogelwch anifeiliaid
- y dulliau ar gyfer monitro anifeiliaid i gynnal eu hiechyd a’u lles a chanlyniadau posibl methu gwneud hynny
- sut i adnabod anifeiliaid iach ac arwyddion salwch
- yr amodau amgylcheddol sydd eu hangen ar anifeiliaid yn eu llety i gynnal eu hiechyd a’u lles, a phwysigrwydd monitro hyn a chymryd y camau angenrheidiol i ymdrin ag amrywiadau
- y camau sydd yn angenrheidiol i gynnal y llety dan do mewn cyflwr addas ar gyfer yr anifeiliaid
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd gydag anifeiliaid mewn llety dan do a’r camau i’w cymryd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- sut i drin, storio, cludo a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwrwiaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau amgylcheddol:
• tymheredd
• awyru
• lleithder
• draeniad
• ardaloedd diogi
Monitro’r anifeiliaid am:
• gyflwr
• ymddygiad
• iechyd a salwch
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP7
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
llety; deunydd gwely; anifail; anifeiliaid; sied; sgubor; lloc; safle