Paratoi llety dan do ar gyfer anfeiliaid fferm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi llety dan do ar gyfer anifeiliaid fferm. Mae hyn yn cynnwys paratoi'r llety a sefydlu'r holl offer yn barod i gael ei ddefnyddio gan anifeiliaid fferm.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi llety dan do ar gyfer anifeiliaid fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r offer a'r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
- gwneud y gwaith o lanhau llety'r anifeiliaid fferm, yn unol â'r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol perthnasol, mewn ffordd sydd yn cynnal eich iechyd a'ch diogelwch ac iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm
- paratoi'r llety dan do ar gyfer cyflwyno anifeiliaid fferm yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio a chadarnhau bod y llety yn ddiogel, yn gadarn ac yn rhydd rhag peryglon, yn unol â'r cyfarwyddiadau a gofynion iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol
- gwirio a chadarnhau bod y gosodiadau wedi eu haddasu, eu hail-lenwi neu eu hadnewyddu a'u bod mewn cyflwr addas ar gyfer cyflwyno anifeiliaid fferm
- darparu deunyddiau llety yn unol â'r cyfarwyddiadau
- sicrhau a chadarnhau bod amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer cyflwyno anifeiliaid fferm
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer paratoi llety dan do ar gyfer anifeiliaid fferm a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- mathau a maint y llety sydd yn addas ar gyfer anifeiliaid fferm sy'n cael eu cadw a sut bydd y rhain yn amrywio ar gyfnodau gwahanol o'r cylch cynhyrchu
- yr arferion glanhau ar gyfer llety anifeiliaid fferm sydd yn briodol i'r rhywogaethau perthnasol a'r math o lety
- sut gall dulliau a deunyddiau glanhau gwahanol effeithio ar eich iechyd a'ch diogelwch ac iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm, a sut i leihau'r effeithiau niweidiol posibl
- y peryglon posibl a allai ddigwydd yn llety anifeiliaid fferm a sut y gellir lleihau'r rhain
- gofynion iechyd a llesiant anifeiliaid fferm a sut i'w hybu
- pwysigrwydd sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn llety anifeiliaid fferm yn rhydd rhag halogiad
- yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol yn y llety er mwyn cynnal iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm sy'n cael eu cadw
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i drin, storio, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau o ran llesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig