Monitro a chynnal gofal anifeiliaid yn ystod ac ar ôl esgor

URN: LANLP5
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal gofal anifeiliaid yn ystod esgor (y broses o eni) a gofal o’r fam a’i hepil ar ôl esgor. 

Mae’n ofynnol arnoch i fonitro a chynnal iechyd a lles anifeiliaid pan fyddant yn esgor gan fonitro eu hiechyd, eu lles a’u cyflwr a chymryd y camau perthnasol pan fydd gennych bryderon.

Mae’n rhaid i chi hefyd fonitro cyflwr y fam a’i hepil ar ôl yr enedigaeth, gan ddiddyfnu, lle y bo’n briodol, a chymryd y camau perthnasol pan fydd problemau. 

Mae atgenhedlu anifeiliaid yn rhan hanfodol o lawer o fentrau anifeiliaid.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
 
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth trwy ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn cynnal gofal anifeiliaid yn ystod ac ar ôl esgor.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. nodi anifeiliaid sydd yn dangos arwyddion o esgor yn gynnar neu’n agos at esgor 
  6. monitro’r anifeiliaid wrth iddynt esgor a chynnal y lefel gofal priodol 
  7. cynnal yr amgylchedd cywir yn ystod esgor
  8. arsylwi’r fam a’r epil yn ystod yr esgor a gofyn am gymorth os arsylwir arwyddion o straen neu os oes amrywiad o’r broses eni arferol
  9. sefydlu bod yr esgor wedi ei gwblhau
  10. gwirio iechyd a lles y fam a’r epil a chynnal gweithgareddau iechyd a lles, fel sydd yn ofynnol gan arferion fferm
  11. cynnal amodau addas ar ôl esgor ar gyfer y fam a’i hepil
  12. monitro’r fam a’r epil ar ôl esgor, gan gymryd y camau angenrheidiol os oes amrywiad o’r norm
  13. tagio’r epil ar yr adeg ofynnol, os yw hyn yn ofyniad
  14. diddyfnu, lle y bo’n briodol, yn unol ag arferion busnes
  15. parhau i gyfathrebu â chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  16. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  17. gwneud yr holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â gofalu am anifeiliaid yn ystod ac ar ôl esgor
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o gyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch yn ystod esgor, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. sut i gynnal amgylchedd sydd yn ffafriol i iechyd a lles anifeiliaid yn ystod ac ar ôl esgor
  6. arwyddion ac ymddygiad yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw sydd yn dangos pryd y mae esgor yn agos
  7. sut i bennu’r angen am gymorth wrth esgor, yn unol â chyfnod a chynnydd yr enedigaeth ac iechyd a lles yr anifail
  8. y cymorth all fod ei angen wrth esgor, yn cynnwys y defnydd cywir o gymhorthion geni
  9. sut i nodi pryd y mae esgor naturiol yn annhebygol o ddigwydd a’r camau cywir i’w cymryd
  10. y rhesymau dros fonitro cyflwr y fam a’i hepil yn ystod ac ar ôl esgor
  11. y mathau o broblemau a’r arwyddion a’r symptomau a allai ddigwydd yn ystod ac ar ôl esgor a’r camau y dylid eu cymryd
  12. y dulliau o ofalu am y fam a’i hepil ar ôl esgor
  13. gweithgareddau iechyd a lles y dylid eu gwneud i’r fam a’r epil ar ôl esgor
  14. y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a chyflwr y fam a’r epil
  15. y problemau posibl y gallai anifeiliaid ifanc ddod ar eu traws a sut i ymdrin â’r problemau hyn
  16. anatomeg arferol yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw, sut i adnabod annormalrwydd mewn epil a’r camau i’w cymryd
  17. y gofynion ar gyfer tagio a chofrestru’r anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  18. y dulliau diddyfnu, lle y bo’n briodol, sydd yn hybu lles ymysg stoc
  19. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  20. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  21. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  23. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gweithgareddau iechyd a lles: 
trochi bogail
trochi tethau
triniaethau nad ydynt yn llawfeddygol
adnabod
glanhau 

Monitro’r fam ar ôl esgor i wirio: 
gollyngiad llaeth
defnydd o laeth
pasio’r brych
pasio meconiwm
annormaleddau
clefydau
anhwylderau
gwrthod yr epil

Monitro’r epil ar ôl esgor i wirio:
ymddygiad
glanhau
presenoldeb colostrwm
dim colli gwaed sylweddol
dim niwed
gallu codi
sefyll a symud
gallu bwydo ac yfed
annormaleddau

Problemau posibl y mae anifeiliaid ifanc yn dod ar eu traws: 
cystadleuaeth
colli cyflenwad llaeth
angen maethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP5

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifail; epil; anifeiliaid; genedigaeth; esgor; mam